Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

T Llew Jones

Vaughan Roderick | 14:19, Dydd Sadwrn, 10 Ionawr 2009

Fe wnes i gwrdd a T Llew Jones un waith. Rwy'n falch fy mod wedi. Roedd yn gyfle i ddweud diolch.

Pan oeddwn yn grwt roedd llyfrau a chylchgronau Cymraeg i blant yn bethau prin- y llyfrau coch glas a gwyrdd i ddysgu darllen, Llyfr Mawr y Plant, Hwyl a Chymru'r Plant. Dyna fyddai'r cyfan oni bai am T Llew Jones.

Y pwynt am ei lyfrau oedd ein bod yn eu darllen oherwydd eu bod nhw'n lyfrau arbennig o dda nid oherwydd bod athro neu athrawes wedi'n gorchymyn i ddarllen llyfr Cymraeg. Roedd "Trysor Plasywernen" yr un mor gyffrous ac unrhyw lyfr "Famous Five" a "Thrysor y Mor-ladron" yn curo "Treasure Island" yn rhacs. Fe'n cyfoethogwyd.

Efallai nad heddiw yw'r amser i wneud y pwynt yma ond mae 'na rywbeth bach sy'n fy ngwylltio. Roedd T Llew Jones yn ysgrifennu mewn Cymraeg oedd yn ddeheuol ond yn safonol ac yn gwbwl ddealladwy i blant ym mhob rhan o Gymru. Mae rhai o'n awduron plant heddiw yn 'sgwennu fel pe bai pob un plentyn Cymraeg ei iaith yn dod o Fethesda neu 'Sgubor Goch.

Rwy'n helpu fy nith i ddysgu darllen ar hyn o bryd. Rwyf wedi hen alaru ar gorfod esbonio beth yw ystyr geiriau fel "wsti" ac "hefo". Dydw i ddim yn meddwl y byddai'r un awdur i'r plant lleiaf yn defnyddio'r gair "crwt" mewn llyfr . Sut mae cyfiawnhau defnyddio "hogyn" felly? Beth sy'n bod ar air safonol fel "bachgen"?

e wnes i gwrdd a T Llew Jones un waith. Rwy'n falch fy mod wedi. Roedd yn gyfle i ddweud diolch.

Pan oeddwn yn grwt roedd llyfrau a chylchgronau Cymraeg i blant yn bethau prin- y llyfrau coch glas a gwyrdd i ddysgu darllen, Llyfr Mawr y Plant, Hwyl a Chymru'r Plant. Dyna fydda'r cyfan oni bai am T Llew Jones.

Y pwynt am ei lyfrau oedd ein bod yn eu darllen oherwydd eu bod nhw'n lyfrau arbennig o dda nid oherwydd bod athro neu athrawes wedi'n gorchymyn i ddarllen llyfr Cymraeg. Roedd "Trysor Plasywernen" yr un mor gyffrous ac unrhyw lyfr "Famous Five" a "Thrysor y Mor-ladron" yn curo "Treasure Island" yn rhacs. Fe'n cyfoethogwyd.

Efallai nad heddiw yw'r amser i wneud y pwynt yma ond mae 'na rywbeth bach sy'n fy ngwylltio. Roedd T Llew Jones yn ysgrifennu mewn Cymraeg oedd yn ddeheuol ond yn safonol ac yn gwbwl ddealladwy i blant ym mhob rhan o Gymru. Mae rhai o'n awduron plant heddiw yn 'sgwennu fel pe bai pob un plentyn Cymraeg ei iaith yn dod o Fethesda neu 'Sgubor Goch.

Rwy'n helpu fy nith i ddysgu darllen ar hyn o bryd. Rwyf wedi hen alaru ar orfod esbonio beth yw ystyr geiriau fel "wsti" ac "hefo". Sut mae cyfiawnhau defnyddio "crwt" neu "hogyn" yn lle'r gair safonol "bachgen"? Mae dysgu darllen yn ddigon anodd heb wynebu rhwystr ychwanegol y geiriau anghyfarwydd.

Does dim byd yn bod mewn defnyddio tafodiaith mewn llyfrau i blant hŷn neu oedolion ond oes angen gwneud hynny mewn llyfrau dysgu darllen?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:24 ar 10 Ionawr 2009, ysgrifennodd Pedant Iaith:

    Bydd, bydd colled ar ei ôl, a chymaint ohonom heddiw yn synhwyro'r golled honno.

    Yt hyn sy'n fy ngwylltio i - yn fwy hyd yn oed nac unrhyw 'hogyn' neu 'wsti' - yw'r ffaith fod "eicon y genedl" a "chawr ein llenyddiaeth" wedi marw. a does 'na'r UN GAIR AMDANO ar dudalen newyddion Saesneg BBC "Cymru". Mae rhyw foi sy'n gwisgo hen esgidiau yn fyw teilwng o stori nac yw T. Llew, mae'n debyg.

    Ble mae'r "genedl ddwyieithog" ar adegau fel hyn?

    Arhoswn yn ein geto.

  • 2. Am 16:29 ar 10 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dydw i ddim yn anghytuno. Fedrai ddim dweud mwy na hynny.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.