Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 17:20, Dydd Gwener, 23 Ionawr 2009

Mae'n ddiwrnod y ffilmiau. Diolch i Dewi am y gyntaf sydd, meddai "yn hen ond yn dda o Awstralia". Doeddwn i ddim wedi ei gweld hi o'r blaen! Yn anffodus dyw hi ddim yn bosib mewnosod hon ond dyma'r ddolen. Mae'n werth ei chlicio!

Fersiwn o "Ysbryd y Nos" yw ail awgrym Dewi.

Am y tro cyntaf yn fy mywyd mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn iau na fi. Mae'n brofiad sy'n dod i bawb yn hwyr neu'n hwyrach! Fe ddigwyddodd i Chet Huntley yn 1960 gyda ethol JFK!

Diolch i Andy am honna. Y rhaglen ganlyniadau etholiad gyntaf ar deledu unrhyw le yn y byd oedd un NBC ar noson etholiad 1948 (yr un pan enillodd Harry S Truman yn gwbwl annisgwyl). Dyma flas ohoni.

Ac yn olaf disgyblion Glan Clwyd yn cam bihafio- ar gyfer y camera, gobeithio!

Diolch am yr awgrymiadau. Rhagor o ffilmiau yfory.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.