Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 21:46, Dydd Gwener, 16 Ionawr 2009

Mae'n ymddangos bod y gyfres fach yma'n boblogaidd. Roeddwn wedi bwriadu iddi orffen ar ôl y gwyliau ond gan fod nifer o'ch awgrymiadau chi wedi dod i law beth am gario ymlaen?

Diolch i Andy Bell yn Melbourne am y ddwy ffilm gyntaf. Mae Andy yn cynhyrchu newyddion yr ABC yn nhalaith Victoria ac yn rhannu pryderon llawer o newyddiadurwyr ynhghylch yr hyn sydd wedi digwydd i newyddion teledu. Mae'n tynnu sylw at y ffilm fach ddoniol ond deifiol yma gan JibJab.

Andy hefyd wnaeth sbotio'r eitem yma ar BBC Alba am fandiau Cymraeg yng nghystadleuaeth Nòs Ùr.

Cyfaill o Iwerddon wnaeth dynnu sylw at gyfres ragorol TG4 yn adrodd hanes y GAA.

Ac un gen i. Roedd nifer ohonoch chi wedi mwynhau blasu "Maori TV" wythnos ddiwethaf. Yr ochr arall i Fôr Tasman mae sefyllfa trigolion brodorol Awstralia yn parhau'n drychinebus. Mae "National Indigenous Television" yn ceisio newid pethau. Pen-blwydd Hapus NITV!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:28 ar 17 Ionawr 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Yn y ffilm Albanaidd, a yw'r trefnydd (Brian rhywbeth) yn siarad Gwyddeleg neu Gaeleg ? Mae'r hen hanes fod Cymry a Llydawyr yn gallu siarad gyda'i gilydd yn amlwg yn anghywir, ond a yw Gwyddelod ac Albanwyr yn gallu deall ei gilydd ?

  • 2. Am 00:20 ar 18 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fedrai ddim ateb...oes rhywun yn gwybod?

  • 3. Am 04:59 ar 18 Ionawr 2009, ysgrifennodd Will:

    Dwi wedi geld a clywed brodor o ogledd Iwerddon a boi o ogledd yr Alban yn siarad a'i gilydd -ond deallais i ddim un gair!

  • 4. Am 05:02 ar 18 Ionawr 2009, ysgrifennodd dewi:

    Ydyn - yr un iaith i bob pwrpas - ffrindiau o Iwerddon wrth eu boddau gyda BBC Alba.

  • 5. Am 17:14 ar 18 Ionawr 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Diolch Vaughan.

    Mae yn braf cael dihangfa. Dwi wedi diflasu gyda rhai o blogysgifwyr Bestan. Mae'n ymddangos fod y safle wedi herwgipio gan bobl sydd a gormod o amser ar ei dwylo ac sy'n hoffi clywed lleisiau ei hunain yn arbennig yr ymgyrch yn erbyn y Cynulliad.

    O ddarllen ei cyfraniadau dwi'n pryderu weithiau fod rhai yn credu y gellir olrhain y Pla Du, Yr Ail Ryfel Byd, Cnesu Byd Eang a Thlodi yn y Trydydd Byd i'r Cynulliad. Dwi yn rhyfeddu fod rhai ohonnynt yn gallu goddef byw yng Nghymru o ran y fath erledigaeth.

    Dwi yn eithaf hoff o ddadl a dwi ddim yn disgwyl unfrydedd barn ond mae rhai yn dadlau i ddiflastod. Fe fyddai yn dda i rai ohonnynt fynd allan i'r gael ychydig o awyr iach ond fe dybiaf pe byddent yn mynd y byddant yn saff o ffeindio rhywbeth arall sy'n fai uniongychol i'r Cynulliad.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.