Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 09:18, Dydd Sul, 4 Ionawr 2009

Diawch, fe wnes i bron anghofio postio'r ffilmiau wythnosol. Dyma nhw. Fe wnaethon ni yn BBC Cymru ddathlu genedigaeth ein brawd bach, BBC Alba, yn 2008. Dyma agoriad y sianel Aeleg. Trefniant o "Alba" gan Runrig yw'r gân.


Roeddwn i'n meddwl bod gyrfa Jerry Springer yn destun od ar gyfer opera! Mae hwn yn fwy rhyfedd!

A'r gair olaf am etholiadau America.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:35 ar 4 Ionawr 2009, Hogygog ysgrifennodd:

    Ydych chi'n gwybod beth yw cysylltiadau gwleidyddol y grwp 'Runrig ' , Vaughan ? . Grwp gwych na chafodd eu gwerthfawrogi ddigon yng Nghymru.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 16:24 ar 4 Ionawr 2009, Bostoniwr ysgrifennodd:

    Oes 'na rywun sy'n digwydd gwybod sawl awr o Aeleg sy'n cael eu darlledu'n wythnosol gan BBC Alba?

    Rwy'n cymryd nad sianel hollol Aeleg mohoni, ond rhywbeth sy'n cyfateb i'r hyn oedd BBC Cymru/Wales cyn i S4C gymryd y Gymraeg oddi yno. Eto, dydw i ddim yn gwybod!

    Beth bynnag yw'r atebion, mae'n beth da ofnadwy i weld yr iaith yn cael y sylw, hyd yn oed os yw'r gân dipyn bach yn "cheesy"!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 11:11 ar 5 Ionawr 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Mae'r sianel yn gyfan gwbwl Aeleg- er bod popeth wedi is-deitlo. Mae 'na fwy o ail-ddarlledu nac ar S4C er mwyn llenwi'r oriau. Mae'r rhan fwyaf o'r rhaglenni ar gael ar i-Player

    Cwyno am y sylw hwn

  • 4. Am 11:13 ar 5 Ionawr 2009, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Rwy'n cymryd mai cenedlaetholwyr oedd aelodau Runrig o ystyried geiriau gwreiddiol "Alba". Mae fersiwn y BBC yn llai wleidyddol!

    Cwyno am y sylw hwn

  • 5. Am 12:44 ar 5 Ionawr 2009, Hogygog ysgrifennodd:

    Hanner iawn. Yr oedd y gwr a fu'n canu i Runrig am flynyddoedd maith, sef Donnie Munro, yn ymgeisydd Llafur aflwyddianus rai blynyddoedd yn ol. Nid oedd wedi cuddio ei deyrngarwch pleidiol erioed. Credaf i'r chwaraewr allweddellau - Pete Wishart, ar y llaw arall, gael ei ethol yn enw yr SNP yn ddiweddarach ( ond nid yr un etholaeth ) . Pete Wishart oedd yr AS cyntaf i ymddangos ar 'Top of the pops' . Yr oedd rhyw chwedl beth amser yn ol fod y blaid Lafur yn ynysoedd y Gorllewin yn fwy pleidiol i'r Gaeleg na'r SNP . Mae'r aelod seneddol (Calum McDonald , Llafur) ar gyfer yr ardal yn rhannu'r un enw ac un o aelodau Runrig .
    Mae stori am Charles Kennedy ( AS Skye ) yn holi Donnie Munro ar raglen radio os oedd ganddo uchelgais gwleidyddol . Yr ateb gonest oedd
    " Oes - ond dim ond dy etholaeth di !"

    Cwyno am y sylw hwn

  • 6. Am 02:45 ar 6 Ionawr 2009, dewi ysgrifennodd:

    Un o aelodau Runrig wedi sefyll dros Lafur i Senedd yr Alban.....

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.