Ydych chi'n cofio "melltith Lembit"- y ffenomena sy'n sicrhâi dinistr i unrhyw un neu unrhyw beth y mae aelod Maldwyn yn cefnogi. Charles Kennedy, Mark Oaten, Jenny Randerson, Sian Lloyd, ymgyrch y dyn ei hun dros lywyddiaeth ei blaid, mae pob un wedi dioddef o'r felltith.
Ychydig wythnosau yn ôl cyhoeddodd Lembit ei fod am 'sgwennu colofn wythnosol i'r "Daily Sport". Mater o amser oedd hi cyn i'r stori yma ymddangos yn y Telegraph.
"Sport Media Group, the publisher of the Daily Sport and Sunday Sport newspapers, is looking at a debt for equity swap and other sources of new financing, after breaching one its banking covenants."
O diar.
Dydw i erioed wedi deall pam fod paentio'r bont ar draws Afon Forth yn gymaint o jobyn. Efallai mai un dyn bach yn defnyddio brws sâl sy'n gyfrifol am y dasg! Ta waith, yn ôl y chwedl yr eiliad mae'r gwaith wedi ei gwblhau mae angen dechrau eto.
Rhaglenni noson etholiad yw'r peth agosaf i'r bont ddiarhebol ym myd darlledu. Yr eiliad mae un yn dod i ben mae'n rhaid dechrau ar y nesaf. Y pethau anoddaf a mwyaf pwysig yw sicrhâi bod y meddalwedd ar gyfer cyflwyno'r canlyniadau yn gweithio'n effeithiol a dewis y llefydd i osod yr unedau darlledu allanol. Dydyn ni ddim yn gwneud y dewisiadau cywir bob tro. Fe wnaethon ni golli canlyniad Ceredigion yn 2005, er enghraifft.
Mae dewisi yn gywir ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf yn arbennig o anodd. Mae ambell i sedd yn amlwg. Does dim angen bod yn athrylith i wybod bod yn rhaid bod yn bresennol yn Aberconwy, Maldwyn a Gorllewin Caerfyrddin!
Y tu hwnt i'r rhai amlwg mae'n fwy anodd. Mae'n ymddangos y bydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn un eithaf hen ffasiwn. Yr economi, mae'n debyg, fydd maes y gad gyda gwahaniaethau polisi amlwg a sylfaenol rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr. Os felly fe fydd yn wahanol iawn i unrhyw etholiad yn ystod y chwarter canrif diwethaf ac mae'n bosib y bydd 'na wasgfa ar y pleidiau llai.
Os ydy hynny'n digwydd (ac mae'n "os" go fawr) fe fydd yn rhaid i ni ychwanegu llwyth o seddi newydd at y rhestr or etholaethau gwledig ecsentrig sydd wedi hawlio'n sylw yn ystod etholiadau diweddar. Fe fyddwn yn ôl ar y tir lle ymladdwyd etholiadau'r chwedegau a'r saithdegau- etholaethau trefol a dinesig ymylol fel Gogledd Caerdydd, Gorllewin Casnewydd a Bro Morgannwg. Mae hynny'n creu problem i ni.
Gan amlaf mae adnoddau yn cyfyngu'r nifer o ddarllediadau allanol i rhyw ddwsin. Y tro hwn mae'n ddigon hawdd llunio rhestr o ugain neu fwy o etholaethau diddorol. Mae hynny'n nifer rhyfeddol o fawr yng nghyd-destun hanes gwleidyddol Cymru. Byswn yn tybio bod yn rhai mynd yn ôl i ddauddegau'r ganrif ddiwethaf i ganfod cymaint o etholaethau gwerth eu gwylio. Dyma fy neg uchaf i- fe fyddaf yn sgwennu'n fanwl am bob un o nhw rhwng nawr a'r etholiad.
Aberconwy
Gogledd Caerdydd
Ceredigion
Bro Morgannwg
Arfon
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Dyffryn Clwyd
Ynys Môn
Maldwyn
Pen-y-bont
Mae croeso i chi anghytuno. Beth am Frycheiniog a Maesyfed, Llanelli a Gorllewin Abertawe? Oes gobaith gan Lafur ad-ennill Gorllewin Clwyd? Roedd De Clwyd a Gŵyr yn ymylol yn etholiad y cynulliad- ydy'r un peth yn wir mewn etholiad cyffredinol? Mae 'na ddigon i drafod!