Advertisement

Archifau 5 Ionawr 2009

Mater o deyrngarwch

Vaughan Roderick | 12:40, Dydd Llun, 5 Ionawr 2009

Sylwadau (8)

Mae un o gryts fy nheulu yn wynebu argyfwng. Er ei fod yn un o selogion y "Spar Family Stand" ym Mharc Ninian penderfynodd y bychan ei fod am gael tîm i gefnogi yn uwch gynghrair Lloegr a chystadlaethau Ewrop. Er mwyn efelychu Aaron Ramsey penderfynodd mai Arsenal fyddai'r tîm hwnnw. Nawr, beth sydd wedi digwydd? Cwpan yr FA, y bedwaredd rownd. Caerdydd v Arsenal. Och! Gwae ni! Beth i wneud? Pwy i gefnogi? Mae penderfyniadau fel 'na'n anodd yn ddeg oed!

Mae teyrngarwch emosiynol yn bwysig mewn gwleidyddiaeth hefyd. Mae cysylltiad plaid a'i chefnogwyr yn aml iawn yn dibynnu'n fwy ar emosiwn a "ffyddlondeb i'r tîm" nac ar unrhyw benderfyniad polisi neu rinwedd yn yr arweinyddiaeth. Dyna yw'r rheswm, mae'n debyg, am y casineb tuag at unrhyw un sy'n newid plaid. Mae Alun Davies yn dioddef hynny ar hyn o bryd ac er nad yw e wedi cymryd y cam olaf trwy ymuno â Phlaid Cymru mae Ron Davies yn destun gwawd yn rhengoedd y Blaid Lafur.

Go brin bod unrhyw un wedi dioddef yn fwy o'r ffenomena nac Elystan Morgan. I'r rheiny sy'n rhy ifanc i gofio safodd Elystan dros Blaid Cymru ym Meirionnydd yn 1964. Ef oedd y "Gwynfor ifanc"- mab darogan ei blaid. Erbyn 1966 roedd wedi troi at Lafur gan ennill Ceredigion i'r blaid. Collodd ei sedd yn 1974 a methiant fu ymdrech i ddychwelyd i'r senedd fel aelod Llafur Ynys Môn.

Eironi'r stori yw bod Elystan wedi cam-ddarllen y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru. O fewn misoedd i'w ethol yn 1966 daeth is-etholiad Caerfyrddin. Does dim dwy waith yn fy meddwl i y byddai Elystan wedi ennill Meirionnydd neu Geredigion i Blaid Cymru yn 1970 neu 1974 pe bai heb newid ei blaid. Dw i'n argyhoeddedig hefyd y byddai wedi dal y naill sedd neu'r llall heb fawr o drafferth mewn etholiadau dilynol.

Nawr, mae Elystan wedi cael bywyd da a llawn fel arglwydd a barnwr. Serch hynny mae'n anodd peidio teimlo bod 'na elfen o drasiedi a gwastraff ynghylch ei yrfa. Ar ben hynny fe wnaeth ddioddef blynyddoedd o wawd a chasineb gan genedlaetholwyr. "Athelstan Organ" oedd Elystan yn ôl "Lol" ac roedd posteri yn ei wawdio ar welydd colegau a stondinau `steddfod. Trwy hyn oll fe gadwodd ei urddas. Glynodd at ei egwyddorion gwleidyddol hefyd gan arwain yr ymgyrch "Ie" yn refferendwm 1979- jobyn di-ddiolch os buodd un erioed!

Y cwestiwn sy' gen i yw "pam?"- ond nid cwestiwn i Elystan yw hwnnw. Mae'n ddigon hawdd deall y cymysgedd o rwystredigaeth ac uchelgais wnaeth arwain at ei benderfyniad yntau. Yn hytrach mae'n gwestiwn i gefnogwyr Plaid Cymru a'r pleidiau eraill. Pam y casineb parhaol tuag at Elystan ac eraill? Pam mae Alun Davies a Ron Davies yn cael eu dirmygu? Ydy unrhyw un sy'n newid ei feddwl yn "fradwr"? Sut mae rhyw un sy'n cael ei ganmol fel arwr un diwrnod yn gallu troi'n ddarn o faw ci dros nos?

Mae teimlad o siom, dicter hyd yn oed, wrth i rhyw un adael plaid yn ddealladwy- ond oes rhaid i'r peth bara am byth?

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.