Advertisement

Archifau 4 Ionawr 2009

Rialtwch

Vaughan Roderick | 09:18, Dydd Sul, 4 Ionawr 2009

Sylwadau (6)

Diawch, fe wnes i bron anghofio postio'r ffilmiau wythnosol. Dyma nhw. Fe wnaethon ni yn BBC Cymru ddathlu genedigaeth ein brawd bach, BBC Alba, yn 2008. Dyma agoriad y sianel Aeleg. Trefniant o "Alba" gan Runrig yw'r gân.


Roeddwn i'n meddwl bod gyrfa Jerry Springer yn destun od ar gyfer opera! Mae hwn yn fwy rhyfedd!

A'r gair olaf am etholiadau America.


Iaith Pawb

Vaughan Roderick | 00:06, Dydd Sul, 4 Ionawr 2009

Sylwadau (13)

Dydw i ddim yn cyhoeddi pob un o'r sylwadau sy'n cael eu postio ar y blog yma. Weithiau mae nhw'n anghymwys, weithiau mae nhw'n bersonol.

Ddoe fe dderbyniais un sylwad (caredig, dw i'n meddwl) gyda chais i beidio cyhoeddi. Gan barchu hynny, ac heb ei ddyfynnu, mae'n codi pwynt hynod ddiddorol. Hanfod y sylwad oedd bod 'na nifer o wallau gramadegol yn y post "Hen Hanes". Dydw i ddim am wastraffu amser yn anghytuno a'r cyweiriadau. Dyw post bach diog o gartref ddim cweit mor drylwyr ac erthyglau o'r gwaith!

Ond mae'n codi cwestiwn diddorol. Cwestiwn "mas a gras" os liciwch chi. Mae emynau Pantycelyn yn gyson yn defnyddio "mas" a "gras" fel geiriau sy'n odli. Mae'r llyfrau emynau ar y llaw arall yn gyson yn troi'r "mas" yn "maes" gan golli'r odl. Mae'r cywirdeb ieithyddol yn lladd y farddoniaeth.

Wrth gychwyn y blog 'ma fe wnes i benderfynu defnyddio Cymraeg ychydig yn wahanol i'r iaith y byswn yn defnyddio wrth 'sgwennu erthyglau newyddion- sef rhyw fath o fersiwn ysgrifenedig o'r iaith dw i'n ei siarad yn ddyddiol. "Dw i" yn lle "rwyf" neu " mi ydwyf", "mas" yn lle "allan", "cryts" yn lle "bechgyn", "taw" yn lle "mai" ac yn y blaen.

Mae'r rheiny efallai yn wallau ieithyddol -os ydych chi'n feistr at y Cywiriadur Cymraeg- ond mae'r gwallau hynny'n ran o ymgais i ddod o hyd i ffordd o sgwennu sy'n ddarllenadwy i bobol nad ydynt gan amlaf yn darllen Cymraeg.

Mae'r "stat-porn"ynghylch nifer darllenwyr y blog yma'n awgrymu rhyw faint o lwyddiant. Mae'r adwy rhwng y nifer o bobol sy'n medru siarad Cymraeg a'r nifer sy'n gallu ei darllen yn broblem ddifrifol. Mae 'na angen ddybryd i greu Cymraeg ysgrifenedig sy'n ddealladwy i siaradwyr Cymraeg yn hytrach nac iaith sy'n eiddo i gwlt o ramadegwyr.

Mae 'na beryglon wrth gwrs. Mae safonau gramadegol yn bwysig. Ond mae'n beryglus hefyd i ddyrchafu'r Gymraeg i fod yn iaith sy'n eiddo i'r ychydig gannoedd neu filoedd o bobol sy'n gallu ei sgwennu mewn modd clasurol gywir Ydy ni'n credu, mewn gwirionedd, bod sefyllfa'r Gymraeg mor gryf nes ei bod yn gallu fforddio bod yn llai hyblyg na'r Saesneg?

Os oedd "mas" yn ddigon da i Bantycelyn mae'n ddigon da i fi.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.