Advertisement

Archifau 2 Ionawr 2009

Plesio Peter (eto)

Vaughan Roderick | 10:57, Dydd Gwener, 2 Ionawr 2009

Sylwadau (8)


Rwyf wedi penderfynu cynnig ymateb difrifol i her Peter Black. Dydw i ddim yn credu fy mod yn llaw drwm wrth drafod y Democratiaid Rhyddfrydol ond gan fod Peter o'r farn fy mod i dyma ddeg o bethau da am Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru.

1.Gweithgarwch eu cynghorwyr. Ar y cyfan mae cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yn hynod weithgar a chydwybodol.
2.Effeithlonrwydd eu cynghorau. Mae'r cynghorau y mae'r blaid yn eu harwain at eu gilydd yn rhai effeithiol a di-sgandal.
3.Richard Livsey. Y gwleidydd mwyaf hoffus yng Nghymru.
4.Haelioni. Mae parodrwydd aelodau'r blaid i ymestyn i'w pocedi eu hun i ariannu'r blaid yn rhyfeddol.
5.Dewrder. Dyw'r aelodau'r blaid ddim yn ofni safiadau amhoblogaidd- yn enwedig ynghylch Ewrop.
6.Eleanor Burnham a Mick Bates. Fe fyddai'r cynulliad yn hynod o ddi-liw hebddynt!
7.Teis Peter Black. Ditto.
8.Bod yn wrthblaid. Dyw hi ddim yn beth iach i unrhyw blaid allu cymryd sedd yn ganiataol. Mae 'na lwyth o seddi lle mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cadw plaid arall ar ei thraed.
9.Lembit. Beth fyddai "Wales on Sunday" yn gwneud hebddo?
10.Anoraciaeth. Sylweddoli nad pethau amherthnasol a dibwys yw pynciau cyfansoddiadol megis systemau pleidleisio a datganoli. Y cyfansoddiad yw fframwaith ein cymdeithas ac mae cael y fframwaith cywir yn angenrheidiol i bopeth arall.

Dyna ddigon am eleni.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.