Dw i'n hoff iawn o Peter Black. Ar ei flog mae e wedi rhestri cyfres o ddymuniadau ar gyfer y flwyddyn newydd. Yn eu plith mae hwn.
"7. Vaughan Roderick will write something nice about the Welsh Liberal Democrats on his blog."
Iawn. Dim problem. Mae "Rhyddid Canolog" yn enw ardderchog ar eu pencadlys.
Ond dyw hi'n rhyfedd meddwl ein bod ni bron wedi cyrraedd hanner ffordd trwy oes y trydydd cynulliad? Efallai bod y calan yn gyfle i ni lunio rhyw fath o adroddiad blynyddol i weld sut mae'r criw presennol o aelodau yn cymharu a'u rhagflaenwyr.
Doedd dim dwy waith, yn fy meddwl i, bod yr ail gynulliad yn wannach na'r cyntaf. Hynny oherwydd ymadawiad nifer o wleidyddion profiadol fel Dafydd Wigley, Ron Davies a Cynog Dafis. Ar y cyfan doedd gwaed newydd 2003 ddim yn argyhoeddi. Gyda dim ond trigain o aelodau does 'na ddim lle yn y cynulliad i ormod o ddyffars- a dyffars, mae gen i ofn, oedd nifer o newydd-ddyfodiad 2003. Mae criw 2007 ar y llaw arall wedi bod yn chwa o awyr iach ac wedi cyfrannu llawer at wella safon y trafod yn y Bae.
Ar feinciau Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr y mae'r rhan fwyaf o'r newydd-ddyfodiad yn eistedd wrth gwrs. Gadewch i ni edrych arnyn nhw fesul plaid.
Etholwyd pedwar aelod Plaid Cymru newydd ac un "re-tread" yn 2007. Does dim angen dweud bod y "re-tread" Gareth Jones yn gaffaeliad i'r grŵp. Mae'r aelodau newydd ar y llaw arall wedi pery loes calon i mi trwy orfodi i mi lyncu fy ngeiriau. Dw i wedi pregethu troeon y dylai'n gwleidyddion brofi "bywyd go-iawn" cyn mynd i wleidydda'n llawn amser. Mi ydwyf o hyd yn meddwl bod 'na beryglon mewn cael "dosbarth gwleidyddol" sy'n symud yn syth o'r coleg i fod yn ymchwilwyr ac yna'n aelodau. Ond yn achos Plaid Cymru does dim dwywaith mae'r ddau aelod newydd sydd wedi gwneud marc yw'r ddau sy'n disgyn i'r dosbarth hwnnw sef Nerys Evans a Bethan Jenkins. Mae'r ddau aelod o'r "byd go iawn" Chris Franks a Mohammad Asghar yn aelodau meinciau cefn os buodd 'na rai erioed. Dw i'n amau fy mod wedi bod yn gyfoglyd o nawddoglyd wrth sôn am Nerys a Bethan ar ôl etholiad 2007. Oce. Sori. Roeddwn i'n anghywir!
Yn ffodus mae presenoldeb Nick Ramsay ar y meinciau Ceidwadol yn profi bod 'na rhyw faint o werth i'm damcaniaeth. Ef heb os yw'r gwannaf o newydd-ddyfodiaid y Torïaid. Mae Darren Miller, Paul Davies, Angela Burns ac Andrew R T Davies i gyd wedi profi eu hun yn aelodau effeithiol. Mae'n ddigon hawdd dychmygu pob un o'r pedwar yn arwain y grŵp rhyw bryd yn y dyfodol. Mae hynny'n adrodd cyfrolau am eu safon- ond wrth gwrs yn cynyddu'r pwysau ar yr arweinyddiaeth presennol.
Dim ond dau aelod newydd oedd ar y meinciau Llafur ar ôl 2007 sef y ddau aelod rhestr Alun Davies a Joyce Watson. Does 'na ddim llawer gen i i ddweud am Joyce Watson. Mae rhyw ffatri gan y Blaid Lafur yn rhywle sy'n cynhyrchu gwleidyddion fel hi. Mae Alun, ar y llaw arall yn "Marmite" o wleidydd- yn rhyw un i'w gasáu neu i'w ddwli arno, yn ôl eich chwaeth. Mae ganddo fe rôl arbennig i chwarae o fewn y blaid fel rhyw fath o "attack dog" yn ymosod ar y Ceidwadwyr ac yn gwahaniaethu rhwng dwy blaid y llywodraeth. Tynnu blew o drwynau'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yw job Alun. Mae'r ffaith bod cymaint o Dorïaid a Phleidwyr yn ei gasáu ond yn profi ei fod yn effeithiol!
Does 'na ddim wynebau newydd ar feinciau'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae hynny'n broblem- yn enwedig gan fod yr eilyddion ar y fainc yn ymddangos yn gryfach na rhai o'r tîm sydd ar y cae. Meddyliwch cymaint yn fwy effeithiol fyddai'r grŵp pe bai pobol fel Aled Roberts a Nick Bennett yn aelodau. Ta waith, mae'n debyg y bydd ambell i un yn ymddeol y tro nesaf gan sicrhâi tipyn o waed ffres hyd yn oed os mai dim ond y chwech sedd arferol sy'n cael eu hennill.