Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Podlediad a phethau eraill...

Vaughan Roderick | 14:13, Dydd Gwener, 5 Rhagfyr 2008

Arwyn Jones, Gohebydd Addysg BBC Cymru yw'r gwestai ar y podlediad yw wythnos hon. Mae trafod addysg (wrth reswm) a hefyd... Abergeirw!!!

Dyma ychydig o ddolenni i'ch difyrru.

Dwi'n dwli ar Reciva sy'n eich galluogi i wrando ar bron i bymtheg mil o orsafoedd radio o bedwar ban byd.

Ond dyw'r rhyngrwyd wedi dod yn bell!

A chwestiwn i orffen. Pam nad yw gwefan newyddion Golwg wedi ymddangos eto? Wedi'r cyfan mae'r Daily Post, ITV a Barn wedi llwyddo i lansio safleoedd newyddion Cymraeg heb fawr o drafferth. Plîs, plîs, dywedwch wrtha'i nad yw'r si bod cynllun y safle wedi ei seilio ar faes yr Eisteddfod yn wir. Cliciwch ar y Pafiliwn am y newyddion. Ewch i'r Babell Len am adolygiadau. Does bosib!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:37 ar 5 Rhagfyr 2008, Albert ysgrifennodd:

    Cwestiwn da iawn am wefan Golwg - ond gobeithio na fydd 'na feiriadu ar y peth cyn hyd iddo ymddangos hyd yn oed.

    Rhaid i mi gyfadde', dwi'm yn cael gweld y cylchgrawn yn aml. Ond dwi'n gobeithio bydd lliw y cylchgrawn yn cael ei adlewyrchu ar y we. A falle bydd y buddsoddiad newydd yn help i wella'u safonnau newyddiadurol hefyd.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.