Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nostradamws

Vaughan Roderick | 18:40, Dydd Mercher, 31 Rhagfyr 2008

Dydw i erioed wedi bod yn ffan o Nos Galan. Beth yw pwynt y peth?

Mae heddiw yn 3/Muharrem/1430 yn y calendr Islamaidd, yn 4/Teveth/5769 yn yr un Iddewig ac yn Ragfyr y deunawfed yn rhannau o Sir Benfro. Hap a damwain o noson yw Nos Galan. Does dim syndod felly bod caneuon y plant mor ddifflach ac yn haeddu cymaint yn llai o losin na'u carolau Nadolig.

"Wel dyma'r flwyddyn wedi dod,
Y flwyddyn orau fu erioed,
O dyma hyfryd flwyddyn,
O dyma hyfryd flwyddyn,
O dyma hyfryd flwyddyn,
Y flwyddyn newydd dda"

Cerwch o 'ma'r diawled! Cewch chi ddim ceiniog arall tan Guto Ffowc!

Mi ydw i wastad mewn hwyliau drwg ar Nos Galan. Dyma'r rheswm mewn un gair - proffwydoliaethau. Am ryw reswm mae 'na draddodiad bod yn rhaid i bobol fel fi rhoi'n pennau ar y bloc a darogan yr hyn allai ddigwydd dros y deuddeg mis nesaf. Mae hynny'n gosod rhyw un mewn cyfyng gyngor.

Mae'n ddigon hawdd chwarae'n saff a llunio rhestr o bethau sy'n debyg o ddigwydd. Gallwn ddarogan y bydd helyntion Nick Bourne yn parhau ac y bydd Rhodri yn cadw at ei air ac ymddeol- ond beth yw pwynt hynny? Gallwn fod ychydig yn fwy mentrus ac awgrymu mai Jonathan Morgan a Carwyn Jones fydd yn arwain y Ceidwadwyr a Llafur erbyn diwedd 2009, neu'n fwy mentrus byth ac enwi Darren Miller ac Edwina Hart yn eu lle. Mae'r cyfan yn bosib- ond pwy yw fi i ddweud?

Hyd yn oed os oeddwn yn gwneud proffwydoliaethau mentrus a beiddgar a phe bai rheiny i gyd yn cael eu profi'n gywir- beth am y pethau nas broffwydwyd? Pwy fyddai wedi darogan ddeuddeg mis yn ôl y byddai Gordon Brown yn gwladoli rhan fwyaf o'n banciau? Dim Vince Cable hyd yn oed!

Ond traddodiad yw traddodiad ac yn erbyn fy ewyllys felly dyma llond dwrn o broffwydoliaethau.

Fe fydd Nick Bourne yn ymddiswyddo fel arweinydd y Ceidwadwyr erbyn y Gwanwyn. Fe fydd 'na etholiad i ddewis olynydd iddo fe gyda Darren Miller yn curo'r ffefryn Jonathan Morgan o drwch blewyn.

Fe fydd 'na anniddigrwydd cynyddol yn rhengoedd Plaid Cymru ynghylch y glymblaid a Llafur. Fe fydd arafwch yr LCO iaith a'r llusgo traed ynghylch refferendwm yn arwain at alwadau am ail-feddwl ynghylch y glymblaid ar ôl i Rhodri Morgan ymddeol.

Wrth i Aelodau Cynulliad Llafur boeni am golli grym fe fydd Huw Lewis yn methu a sicrhâi'r enwebiadau angenrheidiol i sefyll am yr arweinyddiaeth ac fe fydd Carwyn Jones yn cael ei goroni'n ddiwrthwynebiad.

O safbwynt y Democratiaid Rhyddfrydol... NA! Digon yw digon. Fel ddwedais ar y dechrau... beth yw'r pwynt?

Blwyddyn Newydd Dda!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:39 ar 1 Ionawr 2009, Wil ysgrifennodd:

    Geiriau di-fflach!
    Dydd Calan gynta'r flwyddyn
    Sy'n dyfod ar ein traws
    I 'mofyn am y geiniog a chlwt o fara 'chaws
    ag ati ......
    Dwi'n rhannu dy deimladau am Nos Galan ac yn wir am werth darogan unrhyw beth ym myd gwleidyddiaeth.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.