Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mae'r trên nesaf...

Vaughan Roderick | 14:16, Dydd Mawrth, 30 Rhagfyr 2008

Nid yn aml y mae rhyw un yn darllen erthyglau diddorol a goleuedig am Gymru yn y papurau Llundeinig. Braf oedd gweld yr erthygl yma gan George Monbiot yn y Guardian felly. Dadlau mae George dros roi ystyriaeth i gynllun gan y ffigwr unigryw hwnnw, y Tad Deiniol, i agor/ail-agor lein rheilffordd trwy'r canolbarth i gysylltu de a gogledd Cymru. Gwnâi ddim ail-adrodd y dadleuon gan fod yr erthygl yn un sy'n werth ei darllen yn ei chyfanrwydd.

Dyw'r awgrym ddim yn mor afrealistig ac mae'n ymddangos ar yr olwg gyntaf. Yn wahanol i'r adran drafnidiaeth yn Lloegr mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi mabwysiadu polisi o ail-agor rheilffyrdd i deithwyr lle mae 'na gyfiawnhad dros wneud hynny. Yng Nghymru ail-agorwyd y rheilffyrdd rhwng y Barri a Phen-y-bont a Chaerdydd a Glyn Ebwy ac mae'r gwasanaethau wedi profi'n hynod boblogaeth. Yn achos lein Glyn Ebwy (wnaeth ail agor yn gynharach eleni) mae nifer y teithwyr yn golygu bod y llywodraeth eisoes yn gorfod ystyried gwelliannau i gynyddu hyd a nifer y trenau.

Nawr, y fantais fawr gyda lein Glyn Ebwy a lein Bro Morgannwg oedd nad oedd y cledrau wedi eu codi gan fod y ddwy lein wedi parhau mewn defnydd ar gyfer gwasanaethau nwyddau ar ôl i'r gwasanaethau i deithwyr ddod i ben. Dyw hynny ddim yn wir am y rhan fwyaf o'r rheilffyrdd sy'n cael eu cynnwys yng nghynllun y Tad Deiniol a George Monbiot.

Serch hynny mae'n werth nodi un frawddeg fach oedd wedi ei chladdu mewn datganiad diweddar gan y dirprwy brif weinidog- sydd hefyd yn weinidog trafnidiaeth, wrth gwrs. Dyma oedd gan Ieuan Wyn Jones i ddweud yn y Senedd ar yr ail o Ragfyr;

"O ystyried llwyddiant ailagor y rheilffordd rhwng Glynebwy a Chaerdydd, byddaf yn mynd ati o ddifrif i archwilio opsiynau er mwyn ailagor rheilffyrdd segur i wasanaethau teithwyr newydd."

Does dim angen bod yn arbenigwr ar y rheilffyrdd i restri cynlluniau posib. Mae Huw Lewis eisoes yn ymgyrchu dros ail-agor y lein o Ystrad Mynach i Ddowlais tra bod cynllun Blaenau'r Cymoedd yn buddsoddi dros hanner miliwn o bunnau i ymestyn rheilffordd dreftadaeth a allai, yn y pendraw, gysylltu Blaenafon a Phont-y-pŵl. Yn y gogledd mae ail-gysylltu Caernarfon a Bangor ac ail agor lein Dyffryn Clwyd yn bosibiliadau. Mae'r ail o rheiny yn rhan o gynllun y Tad Deiniol.

Fe fyddai angen ffydd a gweledigaeth -ond wrth gwrs mae'r rheiny yn ddwy o rinweddau'r Tad Deiniol!

Od ydych chi am astudio'r hyn sy'n bosib mae'r "Adlestrop Railway Atlas" (pdf) yn ddifyr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:11 ar 30 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd dewi:

    "Bullet train" rhwng
    Caerdydd a Chaergybi. O ddifrif - dyma'r ffordd i hybu economi Cymru.Pedair awr ac ugain munud o Fangor i Gaerdydd - Jôc.

    A Vaughan - blino gyda'r rwtsh o gôd mae'n rhaid teipio..

  • 2. Am 18:52 ar 30 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Dw i wedi gofyn i gael gware o'r cod- neu o leiaf ei wneud yn symlach!

  • 3. Am 22:59 ar 30 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Iestyn:

    Mae dau broblem anferth i ddefnyddio hen draciau. Yn gyntaf, maent bron i gyd yn leiniau troellog, wedi'u hadeiladu ar gyfer traffig lleol yn unig. Wrth gwrs, mae modd dod a thechnoleg newydd i'r sefyllfa, adeiladu ambell i ddarn newydd i sythu'r traciau, ond rych chi'n dechrau son am arian mawr wedyn. Er bod gwely'r trac yno, mae'r pontydd wedi'u dymchwel neu'u gwanhau gan dreigl amser, does dim signalau na gorsafoedd...

    A dyna ni at yr ail broblem. Faint o arian fyddai eisiau ar gyfer y lein (neu un arall sydd dan sylw y Cynulliad ar hyd arfordir y Gorllewin)? Prosiect gwleidyddol byddai hwn - does dim cyfiawnhad i Gymru gael lein De - Gogledd drud heblaw'r cyfiawnhad 'Cenedlaethol'.

    Pe bai astudiaeth yn dangos buddion ariannol digonol (cofier taw buddion digonol o gymharu a'r lein trwy Loegr sydd eisiau), neu pe bai Cymru Annibynol yn derbyn arian gan Ewrop (eto - beth fyddai'r cyfiawnhad?) falle gwelwn ni'r lein hwn.

    Fel arall?

  • 4. Am 23:18 ar 30 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Tomos y tanc:

    Sylwer fod yr holl reilffyrdd a ail-agorwyd yn Ne Cymru. Mae angen gwella'r gwasanaeth yn ddirfwar yn y Canolbarth hefyd, a buasai rheilffordd sy'n cysylltu Aberystwyth a Chaerfyddin yn fendith- mae problemau taffig dybryd i'r de o Aberystwyth bellach .
    Dwi'n cofio mynd ar y tren o Fangor i Gaernarfon rai wythnosau cyn ei gau.
    Cafodd y rheilffordd yma oes ychydig yn hwy er mwyn cynnal yr arwisgo.
    Y broblem gyda llawer o'r cynlluniau yma yw fod adeiladu wedi digwydd ar lwybr y trac.
    Cwestiwn rheilffordd :Ym mha dref yng Nghymru oedd rhaid i chwi groesi'r mor i gyrraedd ei gorsaf ?

  • 5. Am 10:37 ar 31 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Dylan Jones-Evans:

    Chew mis yn hwyr ! :)

    http://www.walesonline.co.uk/business-in-wales/business-columnists/2008/06/28/inspired-rail-link-idea-could-unite-us-as-a-nation-91466-21165474/

    Blwyddyn Newydd Dda!

  • 6. Am 00:38 ar 1 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pwyntiau digon teg. Mater o ewyllus yw'r pethau 'ma. Mae ugain miliwn o bunnau o arian cyhoeddus wedi eu gwario ar ail agor y lein fach o Gaernarfon i Borthmadog. Oes 'na werth iddi? Oes neu nac oes yn ol eich barn. Ond fe ddigwyddodd oherwydd bod 'na ddigon o bobol yn ewyllysio iddi wneud.

  • 7. Am 14:08 ar 1 Ionawr 2009, ysgrifennodd Negrin:

    Wrth son am drenau fuaswn i ond yn hoffi atgoffa IWJ fod Wrecsam yn ddarn o Gymru ac ddim yn dreflan i Gaer/Amwythig/Crewe!! Hefyd mae hi'n bwysig cofio fod yna fwy na Arriva Trains Wales yn rhedeg gwasanaethau yng Nghymru ac hwyrach y dylsa nhw gael chydig o arian y pwrs cyhoeddus.
    Mae'r berthynas sydd rhwng llywodraeth y cynulliad ag ATW yn drewi!!

  • 8. Am 14:27 ar 1 Ionawr 2009, ysgrifennodd macsen:

    Beth ddigwyddodd i arian Amcan Un? Aeth e gyd at brosectau/ffrynts cymunedol er budd y Blaid Lafur hyd gwela i. Llai o stwff 'cymunedol' a buddsoddiad fawr tymor hir mewn strwythur ac adeiladwaith Cymru yn lle - fel ail-adeiladu rheilffyrdd. Mae'n bosib a ddim mor ddrud pan ystyrir faint caiff ei wariio ar ffyrdd neu iechyd.

    Cer amdanni Ieuan! Adeilada rhywbeth y gelli ddwed ymhen 3 mlynedd dy fod wdi wneud gwahaniaeth. Think big!

  • 9. Am 18:41 ar 3 Ionawr 2009, ysgrifennodd Adferwr:

    Mae tref Aberystwyth yn dioddef o gynlluniau na wireddwyd - ffordd-osgoi Llanbadarn, gwelliant Glandyfi ayb. Yr wyf yn beio hyn ar y clymblaid byrhoedlog rhwng Cynog Dafis a'r 'gwyrddion' yn 1992. Ni fu pwysau gwleidyddol gan yr ASau Plaid Cymru, ac
    mae'r obsesiwn am oes a fu yn parhau.
    Gwellwch a lledwch ein ffyrdd, da chi !

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.