Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwahoddiadau

Vaughan Roderick | 15:15, Dydd Iau, 4 Rhagfyr 2008

Dydw i ddim yn ddyn mawr am dderbyniadau a digwyddiadau er bod rhyw hanner dwsin o wahoddiadau yn ein cyrraedd bob wythnos.

Dyma un ohonyn nhw. Mae'r Cynghrair Cefn Gwlad (ie, na chi, y "countryside alliance" wnaeth arwain y frwydr dros hela) yn cynnal noson wobrwyo yn y senedd. Daw'r gwahoddiad yn enw Dafydd Elis Thomas ac fe fydd y gwobrwyon yn cael eu cyflwyno gan Elin Jones. Hefyd yn bresennol fydd Simon Hart prif-weithredwr y Cynghrair a, thrwy gyd-ddigwyddiad, darpar ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro.

Sawl aelod Llafur fydd yn troi lan i hwnna, tybed? Tua'r un nifer, fe dybiwn i, a fydd yn ymateb i apêl gan Ferched y Wawr. Mae'r mudiad hwnnw yn ceisio trefnu arddangosfa o "bras" menywod Cymreig amlwg. Peidiwch â gofyn pam. Dydw i ddim yn gwybod! Beth fydd nesaf? Trôns dros Gymru, efallai.

Ac yfory fe fydd Amnest Rhyngwladol yn codi caets y tu fas i'r senedd wedi ei modelu ar un o gelloedd Guantanamo. Fe fydd croeso i unrhyw un sy'n dymuno gwneud treulio amser yn y caets- does dim angen tei du na jumpsuit oren.

Nawr rwy'n siŵr y bydd y ffarmwrs yn y Noson Wobrwyo yn fois da (bois fel rhain efallai). Mae'n siŵr bod 'na gymhelliad nobl i arddangosfa'r merched hefyd- a dw i'n deall yn iawn y pwynt mae Amnest yn ceisio gwneud.

Serch hynny, maddeuwch i mi am fynd am beint.!

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.