Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bournewatch (3)

Vaughan Roderick | 19:22, Dydd Sul, 14 Rhagfyr 2008

Mi ydw i wedi bod yn Llanelli heddiw yn gweithio fel hobl i Tinopolis (gyda chaniatad y BBC dw i'n rhuthro i ddweud). Rwyf allan o gysylltiad braidd a'r datblygiadau diweddaraf yn helyntion Nick Bourne.

Serch hynny mae'r ffaith bod ei dreuliau bellach yn destun trafodaeth (anffafriol ar y cyfan) ar wefan Conservative Home yn newyddion drwg iddo. Mae'r wefan honno yn un hanner-swyddogol sy'n cael ei darllen yn eang ac yn cael ei defnyddio gan y blaid i fesur y tymheredd ymhlith ei chefnogwyr mwyaf selog. Yn llai pwysig efallai mae'r stori yn dechrau gael sylw ar flogs a gwefannau Llundeinig eraill.

Rydym wedi bod yn trafod problemau Nick yn bennaf o bersbectif Caerdydd gan ofyn a fydd na wrthryfel yn ei erbyn o fewn y grŵp Ceidwadol- ac os oes na, pryd mae'n debyg o ddigwydd. Ond mae 'na ffordd arall y gallai Nick golli'r arweinyddiaeth- trwy ymyrraeth y blaid yn Llundain trwy law David Cameron neu Cheryl Gillan.

Mae Nick yn ffodus bod aelodau'r cynulliad eisoes ar eu gwyliau. Mae'n fater o anlwc iddo fe bod 'na wythnos arall i fynd cyn dechrau gwyliau'r aelodau seneddol.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.