Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bournewatch (2)

Vaughan Roderick | 15:10, Dydd Gwener, 12 Rhagfyr 2008

Fe fedrai nawr fod yn fwy plaen am stori y mae Betsan a finnau wedi bod yn lled awgrymu drwy'r wythnos.

Mae'n ymddangos bod Nick Bourne wedi colli ymddiriedaeth y grŵp Ceidwadol. O'r hyn dw i'n ei ddeall mae o leiaf saith o'r deuddeg aelod am weld newid arweinydd. Yr hyn sy'n eu gwahanu yw pryd y dylai Nick fynd a sut mae ei orfodi i wneud hynny. Yn fras mae cefnogwyr Jonathan Morgan a Darren Miller wedi bod yn chware gem dactegol i geisio sicrhâi mai eu dyn nhw oedd yn olynu Nick.

Mae 'na sibrydion bod Jonathan a Darren yn agos at gytuno mai Jonathan ddylai arwain y grŵp gyda Darren yn ddirprwy iddo. Mae 'na son hefyd y gallai'r ddau arwain dirprwyaeth i ddweud wrth Nick bod hi'n bryd iddo fynd.

Fe ddylwn i esbonio mai ymddygiad Nick Bourne yn ystod y ffrwgwd ynghylch y "dodgy dossier" ac ers hynny sydd wrth wraidd hyn- nid y treuliau y mae ef wedi ei hawlio. Byth ers helynt y ddogfen deallaf fod rhai o aelodau amlyca'r grŵp a rhai o'i swyddogion mwyaf profiadol wedi eu cau allan o gyfarfodydd strategaeth yr arweinydd. Yn ôl un ffynhonnell mae Nick yn "byw mewn byncer gyda Nick Ramsay a llond dwrn o ymchwilwyr dibrofiad".

Yn fan hyn y mae'r costau'n dod mewn i bethau. Os ydy ymateb y cyhoedd i'r treuliau y mae Nick wedi eu hawlio yn un ffyrnig a niweidiol mae'n debyg y bydd 'na symudiad yn ei erbyn o fewn dyddiau. Os ydy'r ffwdan yn profi i fod yn dipyn o storom Awst fe fydd Nick yn goroesi tan y flwyddyn newydd- ond os nad yw'r sefyllfa yn newid, dim ond tan hynny.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:33 ar 12 Rhagfyr 2008, Albert ysgrifennodd:

    Vaughan,
    Ydach chi'n meddwl basai'n gamgymeriad ella i Jonathan Morgan gymryd y rol yma ac ynte mor ifanc. Un cyfla mae rhywun yn dueddol o'i gael fel arweinydd - felly fydd o wir am gymryd y cyfla yna rwan? Cofiwch, mae'n anodd gweld pwy arall fasai'n ffit i arwain y Ceidwadwyr ar hyn o bryd. Ella bydd rhai'n dod i'r casgliad bod Mr Borne ddim mor wael wedi'r cyfan.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 22:37 ar 12 Rhagfyr 2008, Vaughan Roderick ysgrifennodd:

    Dyw e ddim mor ifanc a hynny - ac mae wedi bod yn y cynulliad ers y dechrau. Os nad nawr-pryd?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 23:43 ar 12 Rhagfyr 2008, Bedd Gelert ysgrifennodd:

    "byw mewn byncer.."

    Rwy'n teimlo un o'r ffilmiau 'Downfall' 'na yn troi lan ar 'YouTube'..

    Gwaith da, Mr Roderick a Betsan

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.