Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bogin 'ec

Vaughan Roderick | 12:57, Dydd Gwener, 12 Rhagfyr 2008

Dw i'n rheged allan o eiriau.

Fe wariodd Eleanor Burnham £600 (o'ch arian chi, cofiwch) ar dynnu lluniau i'w hadroddiad blynyddol. Mae Eleanor hefyd wedi hawlio £2,350 am wely a matras.

Ym Mis Ebrill eleni gwariodd Janet Ryder £88.13 ar baentio arwydd ar ffenest ei swyddfa. Wythnos yn ddiweddarach gwariodd £223 o bunnau i gael gwared ohoni. (Diweddariad; Mae Plaid Cymru yn esbonio bod trefn y biliau yn wahanol i drefn y gwaith Fe wariwyd £223 u gael gwared â hen arwydd ac yna £88.13 i baentio un newydd- ond fe dderbyniwyd yr ail fil yn gyntaf.)

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:26 ar 12 Rhagfyr 2008, Hogyn o Rachub ysgrifennodd:

    Dwi ddim yn siwr os dwi'n ei ffendio yn rhyfeddol, neu fy mod 'mbach yn ddig, neu o bosibl ei bod ychydig yn ddoniol bod Ieuan Wyn Jones wedi bod mor gyndyn â hawlio £3.40 ar daith bws! Siwr o fod gall y Dirprwy Brif Weinidog fforddio hynny?!

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.