Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Aros mae'r mynyddoedd bach...

Vaughan Roderick | 11:00, Dydd Mawrth, 23 Rhagfyr 2008

Mae gan bawb yng Nghymru eu milltir sgwâr a gan fod y Nadolig yn hela i ni feddwl am y pethau 'ma meddyliais y byddai'n braf sgwennu am fy un i. Fe fydd 'na ychydig o wleidyddiaeth ar ddiwedd y post- ond dim byd trwm!

Mae gwreiddiau fy nheulu ar Fynydd Maio. "Ble?" meddwch chi. Dydw i ddim yn eich beio chi! Dyw Mynydd Maio ddim yn fynydd mawr crand. Mae'n un o'r rhes o fynyddoedd sy'n gwahanu cymoedd Taf a Rhymni. Os ydych chi'n teithio ar hyd yr A470 Mynydd Caerffili (neu Fforest Ganol) yw'r mynydd cyntaf. Mynydd Maio yw'r ail un. Mynydd Eglwysilan yw'r trydydd.

Mae na ddau bentref bach ar y mynydd. Tawelfryn yw'r cyntaf. Rwy'n ei alw'n bentref ond stad cyngor bach yw'r lle mewn gwirionedd. Fe'i enwyd ar ôl fy hen dad-cu Tawelfryn Thomas. Groes Wen yw'r pentref arall. Does na ddim llawer yno chwaith- rhyw hanner cant o dai, tafarn o'r enw'r White Cross a chapel. Ond am gapel!

Tŷ cwrdd Groeswen oedd yr adeilad cyntaf i'w godi gan y Methodistiaid yng Nghymru. Ym Mis Ionawr 1742 cyflwynodd dyn o'r enw Thomas Evans gae o'r enw Waun Fach i Howell Harris er mwyn codi'r adeilad. Gofynnodd yntau i William Edwards, Tŷ Canol fod yn bensaer, yn adeiladydd ac yn weinidog ar yr achos! William Edwards "yr adeiladydd i ddau fyd" oedd arwr mawr Mynydd Maio. Pan oeddwn yn grwt rwy'n cofio bod llun ohono ar y wal yn Nhŷ Canol ac roedd Wncwl Ted ac Wncwl Elwyn yn adrodd hanesion amdano- yn enwedig ei ymdrechion diflino i bontio Afon Taf ym Mhontypridd gan godi, yn y diwedd, y bont y mae'r dref wedi ei henwi ar ei hol.

Cafodd Tŷ Canol ei ddymchwel yn ôl yn y chwedegau er bod fy nghefnder Richard wedi cadw'r enw ar gyfer ei ganolfan farchogaeth. Rhai degawdau'n ddiweddarach roedd hi'n ymddangos bod y capel yn wynebu'r un ffawd. Pan briododd fy chwaer yno yn 1994 y gred oedd mai honno fyddai'r briodas olaf er y bwriadwyd cadw'r fynwent yn agored am rai blynyddoedd ar gyfer y ffyddloniaid.

Yn ffodus mae 'na bobol dda yn y byd 'ma. Mae rhai o nhw'n mynd mewn i wleidyddiaeth ac felly yn gallu cyflawni pethau yn hytrach na dim ond sgwennu amdanyn nhw! Un o'r rheiny yw arweinydd bytholwyrdd Cyngor Caerffili, Lindsay Whittle. Gwell i mi gyfaddef yn fan hyn mai Lindsay yw un o'm cyfeillion hynaf. Rwy'n cofio gwylio canlyniadau etholiad Chwefror 1974 yn ei gwmni- mewn "lock-in" yn y White Cross fel mae'n digwydd. Mae gen i ragfarn o'i blaid!

Fel mae'n digwydd mae Groeswen yn ran o ward Lindsay. Ar gais y Gymdeithas Hanes Lleol fe weithiodd yn ddiflino i baratoi cynlluniau a sicrhâi grantiau i ddiogelu'r capel. Mae hynny wedi costi cannoedd o floedd o bunnau oherwydd yr angen i ddefnyddio deunydd a dulliau adeiladu traddodiadol. Mae 'na waith ar ôl i wneud ar y fynwent (lle mae Ieuan Gwynedd, ymhlith eraill o'n mawrion wedi ei gladdu) ond fedrai ddim dweud wrthoch chi pa mor bert y mae'r capel yn edrych a pha mor braf fydd hi wrth i blant ysgol y cylch ddechrau ei ddefnyddio i ddysgu am hanes eu hardal.

Dyma'r darn bach o wleidyddiaeth. Rydym wedi bod yn sôn llawer am dreuliau a thrachwant gwleidyddion yn ddiweddar. Os ydyn nhw'n cam bihafio mae'n nhw'n haeddu popeth mae nhw'n ei gael. Ond dyma i chi gyfaddefiad arall. Ar y cyfan, dw i'n edmygu'n haelodau cynulliad a seneddol a'n cynghorwyr. Mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw'n bobol anrhydeddus sy'n gweithio'n rhyfeddol o galed dros ei hetholwyr.

Nadolig Llawen iddyn nhw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:22 ar 23 Rhagfyr 2008, dewi ysgrifennodd:

    Bendigedig Vaughan...nawr beth am gwis Nadolig ???

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 15:45 ar 23 Rhagfyr 2008, osian ysgrifennodd:

    Yn aml yn gweithio yn rhyfeddol o galed heb cael ei gwerthfawrogi.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 18:53 ar 23 Rhagfyr 2008, canalba ysgrifennodd:

    Blog arbenig o dda ac adeiladol ar gyfer amser hyn o'r flwyddyn.
    Diolch am eich blogio diflino dros y flwyddyn.
    Cwis yn syniad gret

    Cwyno am y sylw hwn

  • 4. Am 18:40 ar 30 Rhagfyr 2008, gareth thomas ysgrifennodd:

    chwarae teg i Lyndsey Whittle a diolch am rhoid yr hanes diddorol ma i ni.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.