Fe fedrai nawr fod yn fwy plaen am stori y mae Betsan a finnau wedi bod yn lled awgrymu drwy'r wythnos.
Mae'n ymddangos bod Nick Bourne wedi colli ymddiriedaeth y grŵp Ceidwadol. O'r hyn dw i'n ei ddeall mae o leiaf saith o'r deuddeg aelod am weld newid arweinydd. Yr hyn sy'n eu gwahanu yw pryd y dylai Nick fynd a sut mae ei orfodi i wneud hynny. Yn fras mae cefnogwyr Jonathan Morgan a Darren Miller wedi bod yn chware gem dactegol i geisio sicrhâi mai eu dyn nhw oedd yn olynu Nick.
Mae 'na sibrydion bod Jonathan a Darren yn agos at gytuno mai Jonathan ddylai arwain y grŵp gyda Darren yn ddirprwy iddo. Mae 'na son hefyd y gallai'r ddau arwain dirprwyaeth i ddweud wrth Nick bod hi'n bryd iddo fynd.
Fe ddylwn i esbonio mai ymddygiad Nick Bourne yn ystod y ffrwgwd ynghylch y "dodgy dossier" ac ers hynny sydd wrth wraidd hyn- nid y treuliau y mae ef wedi ei hawlio. Byth ers helynt y ddogfen deallaf fod rhai o aelodau amlyca'r grŵp a rhai o'i swyddogion mwyaf profiadol wedi eu cau allan o gyfarfodydd strategaeth yr arweinydd. Yn ôl un ffynhonnell mae Nick yn "byw mewn byncer gyda Nick Ramsay a llond dwrn o ymchwilwyr dibrofiad".
Yn fan hyn y mae'r costau'n dod mewn i bethau. Os ydy ymateb y cyhoedd i'r treuliau y mae Nick wedi eu hawlio yn un ffyrnig a niweidiol mae'n debyg y bydd 'na symudiad yn ei erbyn o fewn dyddiau. Os ydy'r ffwdan yn profi i fod yn dipyn o storom Awst fe fydd Nick yn goroesi tan y flwyddyn newydd- ond os nad yw'r sefyllfa yn newid, dim ond tan hynny.
Ond dyw e'n beth da bod gan Nick Bourne ac Alun Cairns I-pods! Mae modd iddyn nhw wrando ar bodlediad ola'r flwyddyn trwy wasgu'r botwm ar y dde. Aled ap Dafydd yw'r gwestai.
Fe wariodd Eleanor Burnham £600 (o'ch arian chi, cofiwch) ar dynnu lluniau i'w hadroddiad blynyddol. Mae Eleanor hefyd wedi hawlio £2,350 am wely a matras.
Ym Mis Ebrill eleni gwariodd Janet Ryder £88.13 ar baentio arwydd ar ffenest ei swyddfa. Wythnos yn ddiweddarach gwariodd £223 o bunnau i gael gwared ohoni. (Diweddariad; Mae Plaid Cymru yn esbonio bod trefn y biliau yn wahanol i drefn y gwaith Fe wariwyd £223 u gael gwared â hen arwydd ac yna £88.13 i baentio un newydd- ond fe dderbyniwyd yr ail fil yn gyntaf.)
Mae hon yn un ddifyr. Mae Angela Burns aelod Gorllewin Caerfyrddin wedi gwneud cyfres o daliadau gwerth rhai miloedd o bunnau i "Hart Media Services" am "press work". Oes a wnelo "Hart Media Services" unrhywbeth a Simon Hart, darpar ymgeisydd y Ceidwadwyr yn yr un etholaeth, tybed? (Diweddariad mae Paul Davies hefyd wedi defnyddio gwgwasanaethau "Hart Media Services".)
Pam bod angen dau gamera fideo ar Leighton Andrews? Rhondda.TV mae'n rhaid.*
Sut wnaeth Jocelyn Davies lwyddo i wario £4,549.25 ar fwyd rhwng Ebrill 2006 ac Ionawr 2007? Dwt fach yw hi, wedi'r cyfan! Gwnaeth Rhodri Glyn Thomas a John Marek wario union yr un faint ar fwyd sef £3,404 yr un. Oedden nhw'n bwyta da'i gilydd, tybed? Yn fwy rhyfeddol hawliodd Carl Sargeant yr un ddimai goch am fwyd!
* Roeddwn yn iawn. Dyma mae Leighton yn ei ddweud.
"Fe brynwyd y camerâu i gynorthwyo'r sianel teledu ar-lein Rhondda.TV, sydd yn hyrwyddo fy ngwaith yn yr etholaeth ac yn cynnig platform i sefydliadau ac elusennau lleol. Mi ddefnyddiwyd yn eang, er enghraifft, yn recordio clipiau o ymgyrch y gweithwyr Burberry- yn ffilmio ei phrotestiadau, ac yn ffilmio cyfweliadau gyda phobl enwog oedd yn cefnogi nhw fel Max Boyce, Boyd Clack a Stuart Cable - sydd ddal ar gael ar wefan archif yr ymgyrch www.keepburberrybritish.typepad.com." Digon teg felly.
Unwaith yn rhagor mae'r cofnod treuliau'n tynnu sylw at yr arfer o aelodau'n rhenti swyddfeydd mewn adeiladau sy'n eiddo i'w pleidiau. Mae Nick Bourne yn rhenti swyddfa gan Geidwadwyr Brycheiniog a Maesyfed -ond nid fe yw'r unig un. Mae Jonathan Morgan a Bethan Jenkins, er enghraifft, yn gwneud rhywbeth tebyg. Dyw hynny ddim yn groes i'r rheolau os ydy'r rhent yn un sy'n fasnachol deg.
Serch hynny dw i'n anesmwyth iawn ynghylch yr arfer. Os nad oes 'na forgais ar yr adeilad mae'r rhent yn ffynhonnell ariannol i'r blaid gan lenwi ei choffrau ac arian cyhoeddus i'w wario ar ymgyrchu. Os oes 'na forgais mae'r rhent yn rhoi cymorth i blaid brynu adeilad a allai fod yn ased gwerthfawr yn y dyfodol.
Mae'r arfer hefyd yn ei gwneud yn amhosib bron i blismona'r defnydd a wneir o gelfi ac offer swyddfa y mae'r aelod wedi hawlio amdanynt. Hynny yw, ydych chi'n fodlon credu bod 'na ddau beiriant llungopïo, dyweder, yn y swyddfeydd hyn- un y mae'r aelod wedi ei brynu allan o'i lwfans ac un arall i'w defnyddio gan ymgeiswyr cyngor a seneddol?
Na finnau chwaith.
Mae Nadolig wedi dod yn gynnar i newyddiadurwyr. Ymunwch yn yr hwyl yn fan hyn.
Dyma nhw. Treuliau'r aelodau ar gyfer 2006-2007. Nawr mae hyn braidd yn gymhleth. Roeddwn eisoes wedi gweld y ffigyrau ar gyfer 2007-2008. Nawr oherwydd cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC a'r Western Mail yr ydym yn gweld ffigyrau'r flwyddyn gynt.
Ar bwy edrychwn ni gyntaf. Beth am Laura Jones? Etholwyd Laura yn 2003. Yn Ionawr 2007 hawliodd £1109 am set deledu i'w fflat. Collodd ei sedd ym Mis Mai. Ble mae'r bocs tybed?
Nawr y prif gwrs. Nick Bourne.
Ipod- £229. Pam? I beth?, Trouser Press (!!!) £119.99, Camera Digidol £306.95
Mae 'na 'fwy. Yn Rhagfyr 2006 hawliodd Nick £3,573 am "essential work to bathroom". Yn Ebrill 2007 hawliodd £1,430 am yr un peth. Nid hon oedd y fathrwm lle syrthiodd a chleisio ei lygad gyda llaw.
Dros y ddwy flynedd gwariodd Nick 1983.94 ar lyfrau cyfeiriadol. Mae wedi bod yn talu £150 y tro i Geidwadwyr Preseli Penfro am heirio ystafell i gynnal cymorthfeydd. Beth sy'n bod ar neuadd bentref neu ysgol tybed?
Mae angen pwysleisio yn fan hyn bod y taliadau yma i gyd wedi eu cymeradwyo gan swyddogion y Cynulliad. Dyw hynny ddim yn golygu y bydd y cyhoedd yr un mor hael.
Y pwynt gwleidyddol a'r rheswm am ganolbwyntio ar Nick Bourne yw hyn. Ers dyddiau mae Ceidwadwyr blaenllaw wedi bod yn sibrwd yn ein clustiau yn ein cynghori i graffu'n ofalus ar dreuliau eu harweinydd. Pam? Wel, doedden nhw ddim yn ceisio eu helpu. Y gwir plaen yw bod 'na ymdrech difrifol ar droed i'w wthio allan.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.