Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llawenydd Mawr

Vaughan Roderick | 11:36, Dydd Gwener, 28 Tachwedd 2008

Mae'n bleser gen i ledaeni ychydig o newyddion da. Mae Jon Gower a chriw o newyddiadurwyr ac ysgrifenwyr eraill wedi sicrhâi cyllid digonol i lansio gwefan newyddion Saesneg newydd i Gymru.

Fe fydd y wefan wedi ei modelu ar yr Huffington Post gyda rhai o'r dolenni yn eich arwain at ddeunydd allanol ac eraill at straeon ac erthyglau gwreiddiol. Fe fydd gan y wefan yr adnoddau i gomisiynu rhyw hanner dwsin o straeon ac erthyglau gwreiddiol bob dydd a'r bwriad yw y bydd y deunydd hwnnw yn canolbwyntio ar feysydd sy ddim yn derbyn sylw gan y cyfryngau presennol. Fe fydd y safle yn fyw yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Os nad ydych wedi tanysgrifio i'r podlesiaid mae nawr yn amser da i wneud hynny. Fe fydd John yn trafod y cynlluniau ar rifyn yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Diweddariad; Mae'r podediad yn fyw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:42 ar 28 Tachwedd 2008, Bedd Gelert ysgrifennodd:

    Dw'i ddim yn deall y pwynt o'r podlediad.. - Pam ddim bocs fach ar y sgrin a botwm 'Press Play' ?? Efallai fod mantais i 'downloado', ond unwaith rydych wedi gwrando unwaith, wel, pwy eisiau sydd i gadw fe ar eich 'hard disk' ?

    Ond efallai fy mod wedi colli'r pwynt.. [Mae'r ffaith nad os gennyf 'iPod' 'probably yn signficant'..]

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 22:05 ar 30 Tachwedd 2008, Vaughan ysgrifennodd:

    Paid gofyn i fi! Dydw i ddim yn deall y pethau ma chwaith. Ond mae'n debyg taw ar gyfer yr iPod mae'r pethau 'ma wedi cynllunio.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.