Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Get Smart

Vaughan Roderick | 16:46, Dydd Mercher, 19 Tachwedd 2008

Rwy'n nabod Chris Smart er ei ddyddiau yn cyflwyno rhaglenni "ffonio i mewn" ar Sain Abertawe ac mi ydw i'n hoff ohono fe. Mae'n arth o ddyn sydd â phersonoliaeth sy'n llenwi ystafell. Serch hynny mae'n gur pen cyson i'r Ceidwadwyr.

Efallai eich bod yn cofio'r helynt ynghylch Chris adeg etholiad y Cynulliad. Ef oedd yr ail ar restr y Ceidwadwyr yng Ngorllewin De Cymru. Ceisiodd aelodau o gabinet David Cameron ei ddarbwyllo i dynnu ei enw yn ôl. Pam? Wel oherwydd bod David Davies yn rhyddfrydwr llipa o gymharu â Chris. Fe fyddai rhai yn dadlau bod Genghis Khan yn rhyddfrydwr llipa o gymharu â Chris. Fe aeth e i drwbl un tro am roi clatsied i grwt am gamfihafio. Yng nghylchoedd Chris mae hynny, o bosib, yn cael ei ystyried yn weithred arwrol ond meddyliwch am yr ymateb yng nghylchoedd PC-aidd y Cynulliad.

Yn y bôn fe fyddai presenoldeb Chris yn y cynulliad wedi tanseilio'r holl waith roedd Nick Bourne wedi ei wneud dros y blynyddoedd i drawsnewid delwedd Ceidwadwyr Cymru. Fe fyddai'r pleidiau eraill wrth eu boddau'n cael Chris fel cocyn hitio. Roedd 'na ambell i ochenaid o ryddhad pan fethodd y Torïaid gipio ail sedd yn y rhanbarth.

Efallai eich bod yn dyfalu pam fy mod yn cyfeirio yn ôl at y stori honno nawr.

Wel, dyw swyddfeydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad ddim yn llefydd hapus ar hyn o bryd. Mae 'na sawl rheswm. Mae anniddigrwydd ac arweinyddiaeth Nick Bourne a'i duedd honedig i ddefnyddio staff y blaid fel gweision bach personol yn rhannol gyfrifol. Roedd ei ymdrech i feio'r staff am gynnwys dogfen yr oedd ef ei hun wedi ei chymeradwyo yn amhoblogaidd. Mae rhai aelodau hefyd yn grac ynghylch yr hyn y maen nhw'n gweld fel diffyg teyrngarwch Nick tuag at Alun Cairns yn ystod ei helyntion diweddar.

Erbyn hyn mae Alun wedi cael ei gadarnhau fel ymgeisydd y blaid y Mro Morgannwg yn yr etholiad cyffredinol. Y disgwyl oedd y byddai, pe bai'n cael ei ethol , yn parhau aelod o'r cynulliad tan yr etholiad nesaf yn 2011. Ond beth os oedd Alun yn rhannu safbwynt rhai o'i gyd-aelodau ynglŷn â diffyg teyrngarwch ei arweinydd? Beth os oedd e'n dymuno rhoi cic i Nick?

Fe fyddai modd iddo wneud hynny trwy ymddiswyddo o'r cynulliad. Pwy fyddai'n olynydd iddo? Wel, yr ail enw ar y rhestr. Y Cynghorydd Chris Smart o Borthcawl.

Does gen i ddim clem beth sydd ym meddwl Alun ond os oeddwn i yn lle Nick fyswn i'n poeni.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.