Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwympo'n ddarnau?

Vaughan Roderick | 11:11, Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2008

Diawch, gallai Elin Jones roi gwers i Geoff Boycott ynghylch cadw bat yn syth. Mewn cynhadledd newyddion heddiw fe lwyddodd y gweinidog i wrthod pob ymgais i awgrymu bod 'na densiynau o fewn y llywodraeth ynghylch ffawd yr LCO tai. Mewn cyfres o atebion llwyddodd y gweinidog i ddweud fawr mwy na bod trafodaethau'n parhau rhwng y llywodraeth a'r ysgrifennydd gwladol.

Y cwestiwn mawr, fe dybiwn i, yw i ba raddau y mae'r llywodraeth yn teimlo y byddai ildio i'r pwyllgor dethol yn gosod cynsail ar gyfer LCOs eraill- yn fwyaf enwedig yr LCO iaith. O safbwynt cul polisi tai'r llywodraeth does 'na fawr ddim i golli trwy ildio i ofynion y pwyllgor dethol. Os ydy ildio, ar y llaw arall, yn golygu bod y pwyllgor wedi llwyddo i ddyrchafu ei hun yn rhyw fath o ail siambr ym mhroses deddfwriaethol Cymru- fe fyddai hynny'n broblem ddifrifol.

Roedd y ffrae yma'n gwbwl anorfod. Fe wnaeth rhai ohonom broffwydo y byddai hyn yn digwydd yn ystod taith mesur llywodraeth Cymru trwy'r senedd. Ymateb rhai o'r rheiny sydd yn awr yng nghanol y ffrwgwd oedd ein cyhuddo o'r cabledd mwyaf erioed gan fynnu bod Peter Hain "wedi setlo'r cwestiwn cyfansoddiadol am genhedlaeth".

Dim ffiars o beryg. Mae hon yn mynd i droi'n frwnt. Eisoes mae un o aelodau'r pwyllgor dethol wedi gofyn i arbenigwyr Tŷ'r Cyffredin am ddiffiniad o hawliau a rôl Llywydd y Cynulliad er mwyn ceisio tanseilio ymdrechion Dafydd Elis Thomas i roi pwysau ar yr Ysgrifennydd Gwladol.

Ydy Cymru'n Un ar fin troi'n Cymru'n Ddarnau? Mae hynny'n dibynnu ar ba mor benstiff y mae'r aelodau seneddol a doniau diamheuol Paul Murphy i geisio cyfaddawd.. Wedi'r cyfan os oedd Mr Murphy yn gallu sicrhâi cytundeb rhwng unoliaethwyr a chenedlaetholwyr Gogledd Iwerddon siawns ei fod yn gallu cyflawni gwyrth debyg rhwng carfannau ei blaid ei hun.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:01 ar 12 Tachwedd 2008, Rhys Llwyd ysgrifennodd:

    Buasw ni'n tybio fod llywodraeth y Cynulliad yn isel ei hysbryd a digyfeiriad ar hyn no bryd tu ol i ddrysau caedig. Rwyn credu fod y rheswm dros y digalondid yn cael ei wyntyllu yn erthygl Adam Price yn Golwg yr wythnos diwethaf. Efallai i Betsan Powys roi ei bys ar y broblem ar Dragon's Eye wythnos diwethaf hefyd. Mae'n ymddangos mai'r Blaid Lafur Gymreig yn Llundain sy'n rheoli'r agenda ar hyn o bryd yn hytrach na'r Blaid Lafur, heb son am Blaid Cymru, yn y Cynulliad. Dydy hyn ddim yn newyddion da o gwbwl i Gymru ac i ddemocratiaeth.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.