Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O bedwar ban

Vaughan Roderick | 11:24, Dydd Mercher, 29 Hydref 2008

Mae'n hanner tymor yn y cynulliad. Dyma ychydig o bethau i'ch difyrru. Yn gyntaf fe wnes i anghofio dweud Ddydd Gwener fod 'na bodediad newydd ar gael. Eleanor Burnham yw'r gwestai. Gwasgwch y botwm ar y dde.

O son am y Democratiaid Rhyddfrydol mae'r ddau ymgeisydd ar gyfer yr arweinyddiaeth Gymreig wedi sefydlu gwefannau. Mae'n well cadw draw o fersiwn Gymraeg gwefan Jenny Randerson sy'n cynnwys brawddegau fel yr un yma;

Credaf mai gwlad ryddfrydol yw Cymru yn y bôn, yn llawn pobl â chalon lân, ond yr ydym hefyd yn wladle mae gwleidyddiaeth yn ei gadael hi i lawr.

O diar. O leiaf mae safle Jenny wedi ei gynllunio'n effeithiol. Mae fersiwn Gymraeg safle Kirsty Williams yn gyfan gwbl ddryslyd. Mae gwasgu'r rhai o'r dolenni ar y safle Cymraeg yn eich arwain yn syth at y safle Saesneg. Fe fyddai disgybl pumed dosbarth wedi gwneud jobyn gwell.

Mae 'na ddadl ddifyr ar y chwith ynghylch cenedlaetholdeb a Phrydeindod. Darllenwch mwy ar Red Pepper, WSWS a Socialist Unity.

Efallai oherwydd nad ydy Prydain yn caniatáu hysbysebion gwleidyddol ar y teledu mae 'na rywbeth hudolus bron ynghylch gwylio'r rhai'r Unol Daleithiau. Mae Politico wedi casglu deg o'r hysbysebion gwaethaf.Mae blogwyr y chwith yn awgrymu mai hon yw hysbyseb fwyaf effeithiol y Democratiaid eleni. Fe geisiodd y Gweriniaethwyr frathu yn ôl!


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:37 ar 30 Hydref 2008, allfor ysgrifennodd:

    Fel mae'r rhod yn troi. Yn ol yn y 70au rwy'n cofio bois 'Militant' colegau Caerdydd yn disgrifio cenedlaetholdeb Cymreig fel 'a diversion from the necessary struggle.'
    A ble mae un ohonyn nhw nawr?

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.