Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llond Bol

Vaughan Roderick | 14:49, Dydd Mawrth, 21 Hydref 2008

Ymhen ychydig wythnosau fe fydd llwyth o bethau afiach yn diflannu o beirannau bwyd a diod yn ein hysbytai. Digon teg. Wedi'r cyfan os ydych chi'n dioddef clefyd difrifol neu mewn poen fe fyddai bag o greision neu far o siocled yn sicr o wneud i chi deimlo'n llawer gwaith. Llongyfarchiadau i'r Gweinidog iechyd.

Braf yw gweld hefyd nad yw dannedd y plant sy'n mynychu clybiau brecwast ein hysgolion mewn peryg o bydru. Mae'r gwaharddiad ar roi siwgr ar eich Weetabix yn synhwyrol ond dwi'n poeni'n arw bod y plantos yn cael rhoi llond llwyed o fêl ar eu huwd. Mae angen bod yn llymach yn fan hyn. Serch hynny pob clod i'r Gweinidog Addysg.

Ces i ginio da yn ffreutur y cynulliad heddiw. Golwyth, chips a grefi gyda phwdin reis a saws jam i ddilyn. Rhag ofn fy mod yn llwgu ganol pnawn prynais i greision, tin o bob a Kit Kat hefyd. Diolch byth nad yw rheolau'r Gweinidog Iechyd a'r Gweinidog Addysg yn effeithio arnom ni... nac arnyn nhw. Wrth gwrs, yn wahanol i gleifion a phlant ysgol mae deiliaid Tŷ Hywel yn ddigon cyfrifol i wybod sut mae bwyta'n iach.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:17 ar 21 Hydref 2008, Dai bola clai ysgrifennodd:

    Ydyw e'n wir Vaughan fod hawl gan Aelodau Seneddol yn Llundain i ysmygu yn eu bar yno?

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.