Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Brwm Brwm

Vaughan Roderick | 15:12, Dydd Iau, 23 Hydref 2008

Heddiw mae'r dirprwy brif weinidog wedi bod ym Mlaenau Ffestiniog yn agor y gwelliannau diweddaraf i'r A470- rhyw ddwy filltir o ffordd wedi ei gwella ar gost o £16.5.

Oedwch am eiliad ac ystyriwch y ffigwr yna. £16.5 miliwn. Mae'n dipyn o swm. A beth mae'r holl arian yna wedi prynu? Traffordd chwe lôn? Twnnel? Arwyddion o aur pur? Na. Y cyfan gewch chi am £16.5 miliwn yw dwy filltir a hanner o ffordd sydd ychydig yn fwy llydan ac ychydig yn fwy syth nac oedd hi o'r blaen.

Nid grwgnach ydw i yn fan hyn. Mae'r gwelliannau i'r heol dros Fwlch Goginan ac ar lannau Nant Conwy yn gwbwl allweddol er mwyn dod a ffyniant a llewyrch cwbwl haeddiannol i Flaenau a'r ardaloedd cyfagos. Mae'n fonws eu bod hefyd yn torri ychydig funudau oddi ar y daith rhwng De a Gogledd.

Y pwynt sy gen i yw bod gwella ffyrdd yn fusnes cythreulig o ddrud. Roedd amgylchiadau arbennig yn golygu bod hynny'n arbennig o wir yn achos y gwelliannau rhwng Cancoed a Blaenau gyda delio a thomenni gwastraff y chwareli, yr archaeoleg ddiwydiannol ac anghenion cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri i gyd yn ychwanegu at y gost.

Mae angen cofio'r cyd-destun hwnnw wrth ystyried un o addewidion allweddol Cytundeb Cymru'n Un sef hwn;

Rydym wedi ymrwymo'n llawn i greu cysylltiadau trafnidiaeth gwell - yn ffyrdd ac yn rheilffyrdd - rhwng y De, y Gogledd a'r Gorllewin.

Mae rhan o'r addewid hwnnw yn gymharol hawdd ei gwireddu. Mae'n ddigon posib gwella'r gwasanaeth rheilffyrdd o fewn tymor y llywodraeth bresennol ac fe fydd rhai o'r gwelliannau hynny i'w gweld yn ystod y misoedd nesaf. Ond o gofio'r gost a'r cyfnodau maith y mae gwella ffyrdd yn cymryd fe fydd gwireddu unrhyw welliannau go iawn i'r heolydd cyn yr etholiad nesaf yn llawer anoddach.

Mae hynny'n arbennig o wir yn achos yr A470 gan ei bod hi, yn gwbwl llythrenol, yn un o lwybrau'r dychymyg. Dydw i ddim yn golygu hynny mewn unrhyw ffordd ramantus na barddonllyd. Y gwir amdani yw bod yr A470 ond yn bodoli mewn gwirionedd yn nychymyg ein gwleidyddion. Ers degawdau mae'n haelodau etholedig wedi breuddwydio am ffordd fodern a chyflym rhwng De a Gogledd- yr hyn maen nhw wedi cael gan eu gweision sifil yw llinell ar fap.

Yn ôl yn nyddiau'r Swyddfa Gymreig wrth i wleidyddion daranu am bwysigrwydd cysylltu'r De a'r Gogledd roedd swyddogion yr adran ffyrdd yn benderfynol o amddiffyn cynlluniau oedd, yn eu tyb nhw, yn llawer pwysicach. Nid beirniadaeth yw hynny. Yn nhermau traffig, yr economi a diogelwch y swyddogion oedd yn gywir. Roedd gwasanaethu buddiannau hir dymor y mwyafrif o fodurwr yn bwysicach iddyn nhw na bodloni mympwyon gwleidyddol.

Sut felly oedd tawelu'r gweinidog? Wel trwy gymryd papur a phensil a thynnu llinell ar hyd cyfres o ffyrdd oedd yn bodoli eisoes o waelod Bute Street ar hyd yr A470 i Aberhonddu ac yna ar hyd yr A40, A4073, A44, A492, A498, A4108 a'r A496 nes cyrraedd Glanconwy. "Dyma chi, Mr Gweinidog- yr A470. Ffordd gwbwl newydd yn cysylltu'r De a Gogledd."

Roedd Wyn Roberts yn deall y broblem yn iawn. Doedd dim modd yn y byd argyhoeddi'r swyddogion o bwysigrwydd yr heol. Fe fyddai ceisio gwneud hynny ond yn arwain at ragor o esgusodion a thriciau. Ond roedd Wyn yn dipyn o hen lwynog. Yn ystod ei gyfnod yn y Swyddfa Gymreig fe gafwyd gwelliannau sylweddol i'r A470 ond fe'u cyflwynwyd nid fel rhan o ryw gynllun aruchel ond fel atebion penodol i broblemau traffig lleol. Dyna oedd ffyrdd osgoi Aberhonddu a Dolgellau, er enghraifft. O ran hynny, dyna yw'r gwelliant rhwng Cancoed a Blaenau hefyd.

Mae Wyn yn haeddu pob clod am ei ymdrechion ond canlyniad ei dacteg oedd bod y mwyafrif llethol o'r gwelliannau wedi eu cyflawni ar y rhannau prysuraf o'r heol- naill ai rhwng Caerdydd ac Aberhonddu neu rhwng Trawsfynydd a Glanconwy. Am y rhan fwyaf o'r daith trwy'r canolbarth mae "asgwrn cefn y genedl" yn fawr gwell nac oedd hi pan dynnwyd y llinell ar fap deugain mlynedd yn ôl.

Mae Ieuan Wyn Jones yn fwy uchelgeisiol. Am y tro cyntaf mae'r swyddogion wedi eu gorchymyn i lunio cynllun strategol manwl ar gyfer yr A470 a'r ffyrdd cysylltiedig gyda'r pwyslais ar dorri amseroedd teithio. Mae paratoi'r cynllun hwnnw wedi cymryd dros flwyddyn ond mae'n debyg o ymddangos cyn bo hir. Mae'n debyg mai dim ond ambell i broblem amgylcheddol yng Nganllwyd sydd ar ôl i'w datrys.

Dyw cyhoeddi strategaeth, ynddi hi ei hun, yn golygu dim, wrth gwrs. Ond fe fydd hi'n brawf, dw i'n meddwl, bod y gwleidyddion, o'r diwedd wedi trechu'r gweision sifil o'r ac y gallai'r A470 yn y dyfodol bod yn fwy na "rhyw linell bell nad yw'n bod".

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:00 ar 24 Hydref 2008, ysgrifennodd paul m roberts:

    yn y sector breifat, mae ffordd o gael staff I wneud fel mae'r pobl mewn awdurdod eisiau iddyn nhw ei wneud - "performance management" pam ddim yn y sector gyhoeddus, pwy sy'n rhedeg y wlad?

  • 2. Am 15:58 ar 24 Hydref 2008, ysgrifennodd Huw Waters:

    Ydi, mae adeiladu ffyrdd yn beth drud, ond meddyliwch be fedrwch chi neud efo'r £40,000,000,000 nath gael ei i Northern Rock. Creu gwlad newydd mwy neu lai gyda mwy o fanteision i fwy o bobol.

  • 3. Am 09:34 ar 26 Hydref 2008, ysgrifennodd Negrin:

    Yn union...be sydd isio ydy llywodraeth, lleol a chenedlaethol lle mae aelodau etholedig yn arwain a ddim swyddogion. Dyna un o'r problemau sydd ganddo ni yng Nghymru heddiw...swyddogion analluog yn arwain, mae ansawdd y gwasanaeth sifil yn y Cynulliad yn frawychus o wael.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.