Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Atebion?

Vaughan Roderick | 11:47, Dydd Llun, 6 Hydref 2008

Mae helyntion Nick Bourne wedi mudo o'r blogs i'r cyfryngau traddodiadol. Dyw'r stori ddim ar ben eto o bell ffordd. Fe fydd 'na ragor yfory- ond mae'n werth nodi ambell i beth wrth fynd heibio.

Yn gyntaf, er bod nifer y blogs gwleidyddol Cymreig wedi crebachu ers helyntion rhyfeddol ffurfio'r llywodraeth bresennol maen nhw'n parhau i fod yn hynod ddylanwadol. Fe ddechreuodd y stori, wrth gwrs, ar y blog yma. Fy nghydweithiwr, yr anghymharol Toby Mason, oedd wedi cael achlust o'r helynt. Y broblem oedd darganfod ffordd i'w datblygu.

Roedd cyhoeddi stori fach brofoclyd ar y gornel fach yma o'r we yn ffordd i daflu abwyd i'r dwr. Fe weithiodd. O fewn munudau roedd aelodau Ceidwadol blaenllaw ar y ffôn yn lleisio eu hanniddigrwydd. Dydw i ddim yn gwybod ydy blogwyr fel Sanddef, Miss Wagstaff a'r gweddill yn sylweddoli maint eu dylanwad. Fe wnaethon nhw, blogwyr cyffredin eraill a blogs hanner-swyddogol gwleidyddion a newyddiadurwyr gadw'r stori'n fyw wrth i Nick Bourne groesi ei fysedd a gobeithio y byddai'r stormydd yn gostegu.

Ddydd Gwener tynnodd Nick allan o drefniant i ymddangos ar y Poltics Show. Yn ddiweddarach newidiodd ei feddwl. Ddydd Gwener hefyd fe wnes i bostio cyfres o gwestiynau yr oedd angen i Nick eu hateb. Dyma nhw eto gyda chrynodeb (nid annheg, gobeithio) o'i ymateb.

1.Ydy hi'n wir, fel mae rhai o fewn y blaid yn mynnu ei fod wedi cymeradwyo ("signed off") y ddogfen yn ymosod ar Rhodri Morgan cyn ei chyhoeddi? Os na wnaeth e pwy roddodd yr hawl i swyddogion y blaid ryddhau dogfennau yn enw'r arweinydd heb ymgynghori ac ef?

Nhw sy'n gywir- nid fi. Wps! Fe wnes i gymeradwyo'r ddogfen yn groes i'r argraff a roddais ar Radio Wales. Wps! Sori bawb.Sori, sori,sori

2.Os oedd e wedi cymeradwyo'r ddogfen oedd e wedi ei darllen cyn gwneud hynny?

Um...oeddwn. Ond mae'n ddogfen hir iawn. Fe wnes i ddarllen y peth ar garlam. Roedd gen i bethau eraill ar fy meddwl. Wps! Mea Cwlpa. Mae'n ddogfen hir wedi'r cyfan...

3.Os ydy'r ateb i gwestiwn dau yn gadarnhaol- sut mae'n cyfiawnhau rhoi'r bai am y cynnwys ar swyddogion y Blaid?

Does dim cyfiawnhad. Sori.


4.Os ydy'r ateb i gwestiwn dau yn negyddol. Ydy hi'n arferol i'r arweinydd beidio darllen dogfennau y mae'n eu cymeradwyo?

Nac ydy- a dw i ddim esgus ei bod hi o hyn ymlaen. Sori eto.

Hwn oedd y cyfweliad mwyaf anghysurus a gwleidydd Cymreig i mi weld ers i ni ffilmio Ron Davies yn ystafell gefn fy nhŷ gyda sori wedi sgwennu ar gefn ei law i'w atgoffa i ddefnyddio'r gair hwnnw mor aml a phosib.

Cwestiwn newydd felly. Ydy Nick yn saff? Dim eto.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:52 ar 6 Hydref 2008, bochgoch ysgrifennodd:

    Petawn i yn dy sgidie di VR buaswn i ddim yn brolio.

    Mae hon yn stori o bwys i ohebwyr a blogwyr yn unig - mesur tua 2 ar y richter gwleidyddol.

    Os digwydd i dy stori greu mwy o helynt na mae hi'n haeddu wel faint callach fyddwn ni tybed?

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.