Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Gwir yn erbyn...

Vaughan Roderick | 11:42, Dydd Iau, 25 Medi 2008

Mae grŵp o'r enw "Gwir Gymru" yn cael ei lansio heddiw i ymgyrchu yn erbyn ymestyn pwerau'r cynulliad. Hwn yw'r grŵp y bu David Davies yn ceisio ei gydlynu ac yn ôl ei ddatganiad mae'n cynnwys aelodau Llafur a chynghorwyr annibynnol yn ogystal â David ei hun.

Fe gawn ni weld pa mor arwyddocaol yw'r datblygiad hwn. Mae mudiadau gwleidyddol yn gallu datblygu yn y modd rhyfedda. Yn ôl yn 1997 roedd hi'n ymddangos am gyfnod a fyddai 'na ymgyrch "Na" yn y refferendwm datganoli. Roedd y Ceidwadwyr wedi penderfynu peidio ag ymgyrchu fel plaid ac roedd eu harweinwyr yn gwybod yn iawn y byddai gosod Torïaid amlwg ar flaen y frwydr yn arwain at grasfa. Pwy felly oedd arwain yr ymgyrch?

Rhai wythnosau'n unig cyn y bleidlais derbyniais alwad ffôn i ddweud bod dau aelod Llafur o'r Rhondda wedi dechrau casglu enwau ar ddeiseb yn gwrthwynebu sefydlu'r cynulliad. Doedd na fawr o sylwedd i'r peth- nac unrhyw awgrym bod y ddwy yn siarad ar ran unrhyw fath o fudiad neu ymgyrch. Serch hynny roedd hi'n fendith i ni'r darlledwyr oedd yn cael trafferth ddifrifol i sicrhâi unrhyw fath o falens gwleidyddol rhwng y ddwy ochor. Dyna'r rheswm dros enwogrwydd byrhoedlog Betty Bowen a Carys Pugh.

Gwelodd un Aelod Seneddol Llafur ei gyfle. Fe wnâi ddim o'i enwi- ond dyw e ddim yn anodd dyfalu am bwy 'dw i'n son. Yn fuan roedd yr aelod hwnnw ar y ffôn byth a hefyd yn canmol Betty a Carys ac yn mynnu eu bod yn siarad ar ran mwyafrif mud yn rhengoedd y Blaid Lafur.

Mae'n ddigon posib y gallai "Gwir Gymru" ddatblygu yn yr un modd. Y broblem i'r aelodau ar hyn o bryd, dybiwn i, yw llunio neges eglur ac atyniadol. Hynny yw pan (os?) ddaw'r refferendwm y dewis i'r etholwyr fydd ymestyn pwerau'r cynulliad neu gadw at y drefn bresennol. Does dim dwywaith y bydd "Gwir Gymru" yn apelio at wrthwynebwyr datganoli- y rheiny byddai'n dymuno diddymu'r cynulliad ond dyw hynny ddim yn ddigon. Mae'n annhebyg y byddai'r Comisiwn Etholiadol yn rhoi cydnabyddiaeth na chymorth i gwrp ymgyrchu oedd yn dadlau achos oedd yn amherthnasol i'r cwestiwn ar y papur pleidleisio.

Y dasg sy'n wynebu "Gwir Gymru" yw llunio neges s'yn esbonio pam bod y drefn bresennol yn rhagori ar gynulliad a phwerau deddfu llawn. Dyna, wedi'r cyfan yw'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn. Pob lwc iddyn nhw!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:51 ar 25 Medi 2008, Hen Ferchetan ysgrifennodd:

    O weld ei datganiad am siarad dros y mwyafrif sydd eisiau aros yn y DU dyw hi ddim yn edrych fel fod Gwir Gymru yn paratoi i ddadlau y cwestiwn dan sylw.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.