Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Thanciw

Vaughan Roderick | 15:56, Dydd Iau, 4 Medi 2008


Dw i newydd ddarganfod fy mod wedi ennill gwobor yng nghystleuaeth blogiau'r flwyddyn. Diolch yn fawr i chi gyd. Nawr dw i'n teimlo'n wirioneddol euog am beidio postio ym Mis Awst!

Fel arwydd o ddiolchgarwch ac edifeirwch dyma ambell i ddolen.

Yn gyntaf ymddiheuriad y cyfryngau i Sarah Palin. Gan aros yn yr UDA mae hwn yn safle gwych i gadw llygaid ar yr arolygon barn.

Mae ein cyfeillion yn BBC Alba yn paratoi i lansio'r sianel deledu ar yr ugeinfed o fedi. Gellir cael rhagflas ar Sianel 169 ar Sky rhwng wyth a deg bob nos.

Mae Andy Bell sy'n gohebu'n achlysurol o Awstralia i Radio Cymru ac S4C wedi cychwyn sioi newydd ar orsaf radio JOY-FM yn Melbourne. Mae'n cynnwys peth cerddoriaeth Cymraeg ar ei raglen sydd i glywed (yn y wlad hon) rhwng 12 a 2 ar brynhawniau Sadwrn.

..

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:56 ar 4 Medi 2008, Gareth ysgrifennodd:

    Ydy, mae electoral-vote.com yn dda ond un gwell yw www.fivethirtyeight.com -- sy'n rhoi rhagolwg o debygolrwydd y canlyniad terfynol ar sail polau piniwn cenedlaethol a thaleithiol.

    Yr ystadegau soffistigedig sy'n fy nenu i, 'no.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.