Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhod yn troi

Vaughan Roderick | 14:07, Dydd Mawrth, 23 Medi 2008

Mae'r cynulliad wedi ail-ymgynnull. Mae'n bryd felly i ni danio'r peiriannau yma yn uned wleidyddol BBC Cymru- er efallai bod y peirannau hynny'n debycach i greadigaethau Heath-Robinson na'r Hadron Collider.

Mae S4C2 wedi ail-gychwyn y prynhawn yma. Fe fydd CF99 yn dychwelyd nos yfory a Dau o'r Bae a'r podlediadau ddydd Gwener.

Mae hi hefyd yn gychwyn ar flwyddyn olaf Rhodri Morgan fel Prif Weinidog- efallai.

Mae 'na gryn amser ers i Rhodri gyhoeddi ei fod yn bwriadu ymddeol ar ei ben-blwydd yn saithdeg ym Mis Hydref 2009. Ar y pryd ychwanegodd un amod bach sef y gallai'r dyddiad newid gan ddibynnu ar amseriad etholiad cyffredinol.Ar y pryd doedd hynny'n golygu fawr ddim. Wedi'r cyfan roedd hi'n amlwg y byddai'r etholiad nesaf yn cael ei gynnau ymhell cyn hynny.

Nid felly y bu pethau wrth gwrs. Does neb dwi'n nabod yn disgwyl i'r etholiad cael ei gynnal cyn Hydref 2009 man cyntaf- os ydy Gordon Brown yn parhau fel arweinydd y Blaid Lafur. Lle mae hynny'n gadael Rhodri? Wel, mae'n amlwg na fyddai Rhodri'n ymddeol ar ei ben-blwydd pe bai 'na etholiad ar y pryd. Ond beth os oedd yr etholiad o hyd heb ei gynnal- hynny yw bod y bleidlais i'w chynnal yn hanner cyntaf 2010?

Fe fyddai Rhodri wedyn yn wynebu dipyn o broblem wleidyddol. P'un fyddai orau ymddeol gan roi digon o amser i arweinydd newydd roi ei stamp ei hun ar lywodraeth Cymru neu oedi gan dderbyn y cyfrifoldeb a pheth o'r bai am ganlyniad gwael posib yn etholiad San Steffan? Dyw'r cwestiwn ddim yn un hawdd- a does dim rhai i Rhodri ei ateb eto. Un peth sy'n sicr yn fy meddwl i- fe fyddai Rhodri yn gwneud beth bynnag oedd yn orau i'r Blaid Lafur o dan y fath amgylchiadau. Os oedd hynny'n golygu cymryd clatsied dros ei blaid fe fyddai'n gwneud hynny.

Dyma beth oedd ganddo fe i ddweud heddiw;

" Dw i wedi dweud o'r cychwyn bod yn rhai i fi ffitio'r cynlluniau personol o gwmpas yr amgylchiadau gwleidyddol- hynny yw etholiad cyffredinol. Dyw e erioed wedi bod mor syml a dweud Oce, dw i'n ymddeol ar fy mhen-blwydd. Efallai y byddai'n gallu, efallai ddim..."

Dydw i ddim yn siŵr os ydy hi'n bosib darogan unrhyw beth mawr o'r geiriau hynny... ac eithrio'r ffaith bod y drws yn fwy na chil agored. Os ydy Llafur yn dymuno i Rhodri oedi cyn gadael mae'n fodlon gwneud.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.