Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Poenus!

Vaughan Roderick | 14:31, Dydd Gwener, 12 Medi 2008

Dyw heddiw ddim yn ddiwrnod da i Lembit!

Y bore 'ma cafodd Aelod Maldwyn wybod gan y Western Mail nad yw nifer o fawrion y blaid Gymreig yn fodlon ei gefnogi yn yr etholiad i ddewis Llywydd y blaid Brydeinig.

Gobeithio ei fod wedi cadw draw o brif flog ei blaid "Liberal Democrat Voice". Gallai hwnnw ychwanegu at ei boen. Mae'r safle wedi bod yn cynnal pôl i ddewis aelodau mwyaf a lleiaf effeithiol cabinet y blaid. Dyw e hi ddim yn syndod gweld pwy sydd ar y brig- Vince Cable a sgôr o +96.9%. Ond pwy sydd ar y gwaelod a sgôr o -35/4%? Oes angen dweud?

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.