Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O Na!

Vaughan Roderick | 11:21, Dydd Iau, 4 Medi 2008

Dyw penderfyniad aelod seneddol Mynwy David Davies i lansio ymgyrch yn erbyn cynyddu pwerau'r Cynulliad ddim wedi achosi rhiw lawer o syndod yn y bae. Mae safbwyntiau David (a'r ddau aelod seneddol Ceidwadol arall o Gymru o ran hynny) yn ddigon adnabyddus. Yr hyn sydd yn rhyfedd efallai yw'r amseriad- o gofio nad yw canlyniadau adolygiad Wyn Roberts o bolisi datganoli'r blaid eto wedi eu cyhoeddi.

Mewn un ystyr dyw cynlluniau David ddim yn broblem i'r Blaid Geidwadol. Mae hi wedi bod yn hysbys ers tro y byddai'r blaid yn caniatáu i'w haelodau ymgyrchu i'r naill ochr neu'r llall mewn refferendwm. Mae 'na hen ddigon o Dorïaid fyddai'n gweithio'n egniol dros bleidlais Ie gan gynnwys bron pob un o'r aelodau cynulliad ynghyd a nifer o ddarpar ymgeiswyr sy'n debygol o fod yn aelodau seneddol ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae'n bosib dadlau bod cyhoeddiad David Davies yn fwy o broblem i wrthwynebwyr rhagor o ddatganoli nac yw e o fendith. Yn y ddau refferendwm blaenorol prif broblem yr ymgyrchoedd "Na" oedd amharodrwydd ffigyrau blaenllaw yn y Blaid Lafur i gydweithio a'r Ceidwadwyr.

Yn 1979 roedd 'na ddwy ymgyrch "Na"- un yn cynnwys aelodau o'r Blaid Lafur ac un i bawb arall. Yn 1997 er mai Ceidwadwyr oedd y rhan fwyaf o weithwyr yr ymgyrch "Na" defnyddiwyd wynebau newydd fel arweinwyr. Yn eironig ddigon Nick Bourne a David Davies oedd dau o'r wynebau hynny. Serch hynny, ac eithrio llond dwrn o bobol (gan gynnwys y fythgofiadwy Carys Pugh) prin oedd yr aelodau Llafur oedd yn fodlon cysylltu eu hun a'r ymgyrch yn gyhoeddus.

Nawr efallai fy mod yn anghywir yn hyn o beth ond mae'n anodd credu y byddai unrhyw wleidydd Llafur o bwys yn fodlon cysylltu ei hun ac ymgyrch oedd wedi ei sefydlu gan Geidwadwr- yn enwedig Ceidwadwr o stamp David Davies.

Gallai hynny fod yn broblem enfawr i wrthwynebwyr rhagor o ddatganoli yn y refferendwm nesaf oherwydd y bydd y bleidlais honno yn cael ei chynnal o dan amodau'r "Political Parties, Elections and Referendums Act (2000)". Mae'r ddeddf honno yn caniatáu i'r Comisiwn Etholiadol rhoi cymorth i ymgyrchoedd "Ie" ac "Na" mewn refferendwm- ond dim ond i un ymgyrch "Ie" ac un ymgyrch "Na". Er mwyn derbyn y cymorth hynny mae'n rhaid i ymgyrch brofi ei fod yn cynrychioli ystod eang o'r rheiny sydd yn ceisio sicrhâi'r naill ganlyniad neu'r llall.

Mae'n ddigon posib y bydd penderfyniad David Davies i geisio sefydlu grŵp ar ei liwt ei hun yn fwy o rwystr nac o gymorth wrth geisio sefydlu ymgyrch "Na" unedig. Oni fyddai'n gallach i ddisgwyl i Lafurwr amlwg (rhywun o'r enw "Kinnock" efallai) i wneud y symudiad cyntaf?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:46 ar 4 Medi 2008, ysgrifennodd Rhys:

    Blasus!

  • 2. Am 16:56 ar 4 Medi 2008, ysgrifennodd Dewi:

    O baragraff 2 ymlaen roeddwn yn disgwyl am yr enw "Kinnock". Rhaid imi ddweud bod Comisiwn Syr Emyr heb wneud llawer o argraff mor belled.

  • 3. Am 14:02 ar 5 Medi 2008, ysgrifennodd Richard yn Norwy (am wythnos arall!):

    Oes a wnelo parodrwydd DD i arwain ar y mater yma unrhyw beth o gwbl i'w wneud a sylweddoliad ar ei ran nad oes ganddo obaith o unrhyw swydd mewn llywodraeth Geidwadol tra bod David Cameron yn dal yr awennau? Mond gofyn!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.