Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O Foel y Parc, Nebo a Phreseli...

Vaughan Roderick | 13:43, Dydd Iau, 25 Medi 2008

Pan oeddwn yn grwt pedair sianel oedd ar gael ar ein hen deledu du a gwyn. Dw i'n cofio'r rhifau hyd heddiw; BBC Bryste ar sianel pump, Teledu Cymru ar sianel saith, TWW ar sianel deg a BBC Cymru ar sianel 13.

Dros y blynyddoedd fe drodd Teledu Cymru a TWW yn Harlech ac yna'n HTV cyn diweddu fel ITV Cymru- yr enw answyddogol fu gan y sianelu masnachol o'r cychwyn. Heb os mae ITV wedi bod yn rhan hanfodol o'n bywyd cenedlaethol ers dros hanner canrif ac mae'r toriadau a gyhoeddwyd heddiw yn ergyd drom i'r gwylwyr ac i fywyd gwleidyddol y genedl. Dyna o leiaf yw barn Alun Fred Jones, y gweinidog diwylliant. O gofio hynny, oni fyddai hi wedi bod yn syniad i sicrhâi bod ymateb Llywodraeth y Cynulliad i argymhellion Ofcom wedi cyrraedd cyn y diwrnod cau?

Cyn i'r gwrthbleidiau gwyno am y methiant hwnnw mae'n werth nodi sawl ymateb a ddanfonwyd i Ofcom gan bleidiau gwleidyddol Cymru a'u haelodau cynulliad. Dim un.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.