Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ceiniogau Prin y Werin

Vaughan Roderick | 14:42, Dydd Mawrth, 30 Medi 2008

Dydw i ddim yn economegydd. A dweud y gwir dw i ddim hyd yn oed yn rhywun sy'n dda ac arian. Does gen i ddim siars ac mae'r hynny o gynilion sy gen i wedi claddu rhywle yng nghrombil Cymdeithas Adeiladu.

Trwy lwc, wrth edrych yn ôl (er bod hi'n ymddangos yn anlwc ar y pryd) roedd y gymdeithas honno yn un o'r rhai wnaeth benderfynu peidio ymuno â moch Gerasa'r sector gydweithredol trwy ruthro at y Farchnad Stoc.

Y "Nationwide" yw'r gymdeithas honno a'i haelodau hi, mae'n debyg, sy'n gyfrifol am y ffaith bod y sector ariannol gydweithredol yn dal i fodoli. O drwch blewyn pleidleisiodd yr aelodau yn erbyn newid statws y Gymdeithas gan wrthod y cannoedd o bunnau y byddai'r newid wedi rhoi yn eu pocedu. Pe bai'r bleidlais yn wahanol go brin y byddai na'r un gymdeithas adeiladu yn bodoli heddiw. Wedi'r cyfan mae'r Nationwide yn gyfrifol am fwy o asedau na'r holl gymdeithasau eraill gyda'i gilydd.

Fe fu'n rhai i fwrdd a rheolwyr y "Nationwide" weithio'n galed i ddarbwyllo'r aelodau i beidio derbyn yr abwyd ond roedd ganddynt un fantais sef traddodiadau'r Gymdeithas. Cyn iddi fabwysiadu'r enw presennol Cymdeithas Adeiladu'r Co-op oedd y "Nationwide" ac roedd cyfran sylweddol o'i haelodau yn dal i arddel egwyddorion y mudiad cydweithredol.

Canlyniad y bleidlais oedd bod yn rhaid i'r Gymdeithas barhau i weithredu o fewn y rheolau llym sy'n bodoli yn y sector gydweithredol. Yn y bôn roedd y Gymdeithas ond yn cael gwneud dau beth sef denu cynilion gan unigolion a defnyddio'r arian hwnnw i wneud benthyciadau morgais. Mae'n fusnes hen-ffasiwn ond yn gadarn yn ariannol.

Does dim rhyfedd felly bod rheolwyr ac aelodau'r Gymdeithas- a chymdeithasau adeiladu eraill yn poeri gwaed bod rheolau Cynllun Iawndal y Sector Ariannol yn golygu y bydd yn rhaid i'r cymdeithasau dalu rhan o'r gost o achub Banc Bradford a Bingley. Mae'n debyg y bydd hynny'n costi wythdeg miliwn o bunnau i'r cymdeithasau.

Mae 'na un cysur, wrth gwrs. Maen nhw yma o hyd. Mae pob un o'r cymdeithasau wnaeth ymuno a'r Farchnad Stoc wedi eu traflyncu neu wedi mynd yn fethdalwyr. Dyw mynd yn groes i'r ffasiwn ddim o reidrwydd yn beth gwael.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.