Help / Cymorth

Archifau Awst 2008

Llythyr o'r llaid

Vaughan Roderick | 18:08, Dydd Mawrth, 5 Awst 2008

Sylwadau (4)

Oedd, roedd hi'n wlyb ar y Maes heddiw. Ond dewch mlaen, bois bach. Doedd hyn yn ddim byd! Mae nhw'n dal i ganfod gweddillion Eisteddfodwyr ar faes Abergwaun ac mae'r Urdd o hyd yn chwilio am Bafiliwn Castell Newydd Emlyn!

Am bob bran mae na dderyn du ac mae'r glaw yn ei gwneud hi'n llawer haws i drefnwyr cyfarfodydd a digwyddiadau dan do ddenu cynulleidfaoedd. Pymtheg o bobol oedd yn gwrando ar Carwyn Jones ddoe. Mae'n debyg bod deg gwaith y nifer yna wedi clywed darlith Alun Ffred Jones heddiw. Mewn gwirionedd doedd gan y Gweinidog Treftadaeth newydd fawr ddim byd o sylwedd i gyhoeddi ond roedd ei araith lengar gyda'i chyfeiriadau mynych at weithiau llenyddol Cymraeg a Chymreig yn amlwg yn apelio at y gynulleidfa. Wrth fynd heibio fe gododd bwynt diddorol. Gofynnodd pam fod cymaint o'r arian y mae'r llywodraeth yn rhoi i'r sector "wirfoddol" yn cael ei wario ar gyflogau. Cythraul o gwestiwn da.

Yn y cyfamser ym mhabell y Morning Star lansiwyd cyfieithiad newydd o'r "Maniffesto Gomiwnyddol". Rhywsut dw i'n amau a fydd 'na lawer o werthiant. Mae'n beth da, wrth gwrs, bod gwaith meddylwyr fel Marx ac Engels ar gael yn y Gymraeg a dw i'n edmygu pobol fel Gareth Miles a Robert Griffiths yn fawr am eu dyfalbarhad dros eu hachos. Serch hynny mae dyn yn teimlo weithiau eu bod nhw fel rhyw garfan fechan o Fedyddwyr Albanaidd yn nyfnderau cefn gwlad yn ceisio cadw drws y Capel ar agor ymhell y tu hwnt i'w amser! Gyda llaw, os ydych chi eisiau darllen cyfieithiad clasurol WJ Rees o'r Maniffesto gellir gwneud hynny yn fan hyn.

Mae'n arwydd, efallai, o ba mor wael mae pethau i'r Blaid Lafur fod Cymdeithas Cledwyn wedi penderfynu gochel rhag gwleidyddiaeth yn ei sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau. Yn lle'r ddarlith neu'r ddadl draddodiadol cafwyd digwyddiad bach hyfryd- digwyddiad y dylai'r Eisteddfod ei hun wedi ei drefnu, o bosib. Gwahoddwyd plant o gefndiroedd ethnig sy'n mynychu ysgolion Cymraeg y cylch i gwrdd a'r Prif Weinidog a pherfformio i'r gynulleidfa. Roedd llai na haner y gynulleidfa honno yn bobol gwyn. Go brin bod hynny wedi digwydd yn y Brifwyl o'r blaen. Dydw i ddim yn ddyn mawr am wrando ar blant bach yn canu Bili Broga a Sali Mali ond gallaf faddau am unwaith!

Y lle i fod

Vaughan Roderick | 19:42, Dydd Llun, 4 Awst 2008

Sylwadau (0)

Mae 'na sawl llwyth yr Eisteddfod, pobol y Pafiliwn, y Babell Lên, hyd yn oed y bobol hynny fel fy nghyd-olygydd Betsan Powys sy'n treilio eu diwrnod yn cerdded yn ôl ac ymlaen rhwng bws Cyw a phabell Sam Tan mewn ymdrech i gadw eu plant yn dawel.

Yn bersonol dw i'n aelod o'r llwyth lleiaf- selogion Pabell y Cymdeithasau, y babell fwyaf di-nod a mwyaf diddorol ar faes y Brifwyl. Yn fan hyn mae cynulleidfaoedd (bychan gan amlaf) yn cael y fraint o fod ymhlith y cyntaf i glywed am rai o'r syniadau ac ymgyrchoedd a allai fod ar wefusau pawb yn hwyr neu'n hwyrach.

Wrth gerdded draw i'r babell heddiw galwais heibio yn stondin Cymdeithas yr Iaith ar gyfer lansiad llyfr Gwion Lewis "Hawl i'r Gymraeg". Dw i ddim wedi darllen y gyfrol eto ond yn ôl rheiny sydd wedi mae'n waith o bwys. Yn y dorf ar gyfer y lansiad roedd y Gweinidog Diwylliant newydd Alun Ffred Jones. Mae hynny'n arwydd o'r amserau efallai ond awgrymais wrth un o'i swyddogion nad oedd y Gweinidog eto yn deall ei rôl yn y steddfod. Nid ei le fe yw sefyll yn y dorf y tu fas i babell y Gymdeithas, ei rôl e yw cerdded o gwmpas y maes gyda Dafydd Morgan Lewis yn gwaeddi yn ei glust trwy fegaffon. Gwenodd y swyddog yn serchus ataf. "Arhosa tan flwyddyn nesaf!" meddai.

Ta beth draw ym Mhabell y Cymdeithasau roedd Simon Brooks yn traddodi darlith goffa Syr TH Parry-Williams ar hanes y Gymraeg yn ardal dociau Caerdydd. Gan mai dod i Gaerdydd i weithio yn y dociau y gwnaeth teulu Mam rhai cenedlaethau yn ôl roeddwn i eisiau gweld i ba raddau yr oedd sylwadau Simon yn cyd-fynd a'i hatgofion hi. Wrth gwrs Simon yw Simon ac roedd e'n benderfynol o fod yn brofoclyd. Cynhyrchodd ystadegau yn awgrymu bod y Gymraeg wedi goroesi yn well yn yr hen Tiger Bay aml-hiliol nac yn rhannau eraill o'r ddinas. Ei ddadl oedd oedd bod hi'n haws i leiafrif gadw ei hunaniaeth ymhlith llu o leiafrifoedd eraill nac yw hi fel un garfan fach yng nghanol grŵp mwyafrifol. Nododd bod y Cymry sydd wedi heidio i'r ddinas yn ystod y degawdau diwethaf hefyd, ar y cyfan, wedi dewis ymsefydlu yn yr ardaloedd mwyaf aml-ddiwylliannol, llefydd fel Treganna, Glanyrafon a'r Grenj. Tra bod hynny'n ffeithiol gywir dwi'n amau bod 'na ffactorau eraill ar waith yn fan hyn. Serch hynny mae 'na ddigon i gnoi cil drosti.

Cyfarfod wedi ei drefnu gan yr Ymgyrch Senedd i Gymru ddaeth nesaf gyda Elinor Burnham a Dylan Jones Evans yn dweud eu dweud. O'r ddwy araith un Dylan oedd y fwyaf sylweddol- dyna i chi syrpreis! Mae'n biti nad yw trafodion cyfarfodydd fel hwn yn cael eu cyhoeddi oherwydd roedd araith Dylan yn un anodd i grynhoi mewn ychydig frawddegau. Fe wnaeth un sylw trawiadol iawn sef nad oedd y ffaith bod gan Gymru lai o bwerau na rhan arall o'r Deyrnas Unedig yn unrhyw fath o ddadl dros gynyddu pwerau'r cynulliad. Roedd yn rhaid cyflwyno'r achos hwnnw ar sail ei rinweddau ei hun. Awgrymodd hefyd bod yr "enfys" o hyd yn agos at ei galon ac y byddai 'na lywodraeth ddi-Lafur yng Nghaerdydd yn hwyr neu'n hwyrach.

Cyn i hynny ddigwydd (os ddigwyddiff hi o gwbwl) mae'n debyg y bydd gan Gymru un Prif Weinidog Llafur arall a mwy na thebyg Carwyn Jones fydd hwnnw. Mae'n goblyn o beth mai dim ond rhyw bymtheg o bobol oedd yn y gynulleidfa i wrando ar araith feddylgar ganddo ynglŷn â dyfodol y Gymraeg. Hwn oedd eich cyfle i ddylanwadu ar y gwr â allai fod yn arwain Llywodraeth Cymru ymhen deunaw mis ac fe wnaethoch chi ei golli! Canolbwyntio ar ffawd y Gymraeg yn ardal y glo caled wnaeth Carwyn. Yn yr ardal hwnnw mae gwreiddiau hanner arall fy nheulu (fel mae'n digwydd fy nhad-cu wnaeth briodi taid a nain Carwyn) felly dwi'n rhannu ei bryderon ynglŷn â sefyllfa'r iaith yn Nyffryn Aman a Chwm Tawe. Wrth sgwrsio a fe ar ôl y ddarlith fe wnes i nodi'r eironi bod etholwyr yr ardaloedd hynny yn troi at Blaid Cymru ar yr union adeg y mae'n nhw'n cefni ar y Gymraeg. Cytunodd Carwyn gan gyfaddef ei fod yn defnyddio'r union ddadl honno yn erbyn rheiny yn y Blaid Lafur sy'n credu bod cefnogaeth i'r Gymraeg yn bwydo cenedlaetholdeb.

Dyna i chi flas ar un diwrnod ym Mhabell y Cymdeithasau. Pam na ddewch chi draw?

Croeso!

Vaughan Roderick | 14:24, Dydd Gwener, 1 Awst 2008

Sylwadau (1)

Dyma ni felly ar drothwy Eisteddfod arall- a hon yn ninas fy mebyd. O leiaf y tro hwn mae'r maes (sy'n hyfryd gyda llaw) yng nghalon y ddinas. Y tro diwethaf i'r brifwyl ddod i Gaerdydd yn ôl yn 1978 roedd yr hen bafiliwn dur yn gorwedd fel rhyw forfil alltud ar gyrion stad cyngor Pentwyn- yn agosach mewn gwirionedd at ganol Casnewydd na chanol Caerdydd.

Eisteddfod ryfedd oedd honno. Roeddwn i'n gwneud rhyw faint o waith i'r "Dinesydd Dyddiol" ac roedd 'na hen ddigon o wleidyddion i'w holi. Roedd y cytundeb rhwng Llafur a'r Rhyddfrydwyr wedi dod i ben yn San Steffan ac roedd llywodraeth leiafrifol Jim Callaghan (aelod lleol maes y brifwyl) yn byw ar gardod yr SNP, Plaid Cymru ac ambell i aelod o Ogledd Iwerddon. Trwy'r wythnos felly roedd aelodau'r cabinet yn crwydro'r maes yn ceisio seboni cenedlaetholwyr. Yr olygfa sy'n aros yn y cof oedd gweld yr Ysgrifennydd Tramor, David Owen, yn eistedd ym Mhabell y Dysgwyr er mwyn dysgu ei rifau!

Go brin y bydd yr Ysgrifennydd Tramor presennol yn mynychu'r brifwyl, mae gan hwnnw hen ddigon o bethau eraill i wneud! Ta beth mae'n argoeli'n dda at yr Eisteddfod eleni a dw i'n edrych ymlaen at gwrdd â nifer ohonoch ar y maes.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.