Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Vaughan Roderick | 13:57, Dydd Mawrth, 1 Gorffennaf 2008

Mae dewis a dethol yn rhan hanfodol o newyddiadura. Pa stori i redeg? Pa ddyfyniad i gynnwys? Beth sydd o ddiddordeb a beth sy ddim? Yn anorfod efallai mai 'na ambell i hanesyn diddorol yn syrthio trwy'r rhwyd- yn enwedig rhai o dramor. Dyma i chi un a allai fod yn berthnasol i ni.

Draw yn Seland Newydd mae'r llywodraeth newydd ail-wladoli'r gwasanaethau trenau. Roedd y wlad honno wedi mabwysiadu system ddigon tebyg i'r un sy'n bodoli ym Mhrydain gyda'r trac ei hun yn eiddo cyhoeddus a'r gwasanaethau'n cael eu rhedeg gan gwmni preifat. Dyma esboniad y gweinidog cyllid.

"The Government will now avoid paying subsidies to third parties and we also avoid the on-going disputes ...which had the potential to destroy value in the business and erode the morale of the people who work in it."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:34 ar 2 Gorffennaf 2008, Rhys ysgrifennodd:

    Stroi ddiddorol, er erbyn hyn, dim ond un linell rheilffordd i ddefnyddwyr cyffredin sydd yna bellach yn y wlad mwy na heb.

    Dwi'n cofio darllen erthygl mewn 'spnoseored suppliment' yn y Guardian tua dwy flynedd yn ôl, a oedd wedi ei noddi gan lywodraeth Rwmania, ble roeddynt yn sôn am breifateiddio nifer o sefydliadau gan gynnwys y Rheiffordd gan ddilyn yr esiampl wych a llywddiannus Prydain - prin allwn beidio a chwerthin.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 17:00 ar 2 Gorffennaf 2008, Dafydd Tomos ysgrifennodd:

    Bore 'ma ar y trên, clywais i ryw ddyn busnes haerllug o Lundain yn cwyno am safon y rheilffordd yng Nghymru i gymharu a system wych Llundain.

    Efallai fase'n well i'r bobl 'ma edrych yn nes adre cyn cwyno am 'the regions' - dwi'n clywed digon o gwyno am y Tube, sydd wrth gwrs wedi llyncu arian cyhoeddus.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.