Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Clecs

Vaughan Roderick | 18:47, Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf 2008

Mae pawb yn y lle 'ma'n barod am wyliau erbyn hyn. Yn ôl Carwyn Jones pan ofynnodd rhyw un i'w fab a oedd e wedi gweld ei dad yn ddiweddar "ar beth?" oedd ateb y crwt.

Ydy, mae'r sesiwn ers y Pasg wedi bod yn un hir ond mae dyddiau'r cŵn o'n blaenau. Beth i sgwennu felly?

Fe ddylwn i flogio am raglen ddeddfwriaethol y llywodraeth ond does gen i fawr o awydd drafod yr LCO cig coch na'r Mesur Anghenion Arbennig. Nid bod y rheiny'n ddibwys, jyst fy mod yn ei chael hi'n anodd meddwl am rywbeth newydd i ddweud yn eu cylch. Yn lle hynny dyma ychydig o glecs.

Beth am hwn? Mae'r Pwyllgor Cynaladwyedd newydd ddanfon deg datganiad i'r wasg i'r BBC ar ddeg darn o bapur. Fe fyddai un yn ddigon...neu e-bost. Oni fyddai hynny'n fwy cynaliadwy?

Fe fu'r South Wales Echo yn dalcen caled i Blaid Cymru ers degawdau. Roedd y papur ym mlaen y gad yn erbyn datganoli yn refferendwm 1979 ac mae'n dal i argraffu erthyglau ffyrnig yn ymosod ar addysg cyfrwng Cymraeg. Ond yn sydyn mae cyfres o erthyglau mwy ffafriol i'r Blaid wedi dechrau ymddangos eitemau fel hon a hon. Beth yw'r esboniad? Ai cyd-ddigwyddiad yw hi bod Plaid Cymru newydd gyflogi Phil Nifield i ofalu am ei chysylltiadau cyhoeddus yn y De-ddwyrain? Mae Phil yn foi ffein iawn ond yn bwysicach efallai, am bron i ddeugain myned ef oedd gohebydd gwleidyddol... y South Wales Echo.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 01:09 ar 16 Gorffennaf 2008, Ceri Jones ysgrifennodd:

    Gyda'r papur yma yn datgan ei wrth-gymreictod mor groyw - sut yn y byd all y llywodraeth ddatgan nad oes ar y Cymry angen Bapur Cymraeg a bod pob dim o bwys erbyn hyn ar y we.

    Mae papur o hyd yn gryfach na'r cleddyf a'r South Wales Echo mor lyfn ei fin ag erioed.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.