Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y Tad a'r Mab

Vaughan Roderick | 10:48, Dydd Iau, 19 Mehefin 2008

Un o fy hoff wleidyddion yw Donald Anderson. Mae'n aelod o D'r Arglwyddi erbyn hyn ond am ddegawdau bu'n cynrychioli Dwyrain Abertawe, a chyn hynny Mynwy, yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae Don yn perthyn i draddodiad o fewn y Blaid Lafur sy'n cyfuno daliadau Sosialaidd a Christnogol ac efallai oherwydd hynny mae e bob tro yn ddyn cwrtais ac urddasol er yn hen ffasiwn braidd.

Mae'n dipyn o sioc felly i ddarganfod bod gan Mr Anderson fab afradlon. Mae'r Times wedi dalenni mai Geraint Anderson yw "City Boy" awdur colofn a llyfr dienw yn croniclo bywyd gweithwyr ifanc yn y marchnadoedd arian a stoc Ninas Llundain.

Mae "City Boy" yn adrodd hanes cymeriad o'r enw Steve Jones cymeriad sydd ymhlith pethau eraill yn gwario £25,000 ar logi awyren i hedfan i Sbaen.

Ond i ba raddau mae'r llyfr yn hunan fywgraffiad? Mae'r Times yn gofyn y cwestiwn hwnnw.

What about the £25,000 private-jet trip to Ibiza, which involved Jones being greeted at the airport by two naked prostitutes and a drug dealer? "It's exaggerated." Did you go on a private jet to Ibiza? "No, it's based on an experience I heard about." An e-mail later adds that he has been on similar trips to Miami and Las Vegas. Did you bet a competitor at another bank £100,000 that you would beat him in an annual ranking of City analysts? "There was a bet, yeah. But it's exaggerated." How exaggerated? "Well,a couple of decimal places. Closer to a thousand." How long did your coke habit last? [After long pause] "Can I just say, I've been a bit naughty?"

...ac yn y blaen ac yn y blaen. Ond efallai bod Geraint yn fab ei dad wedi'r cyfan. Ar ddiwedd y cyfweliad gofynnir iddo beth yw ei farn am ei gydweithwyr erbyn hyn ac yntau wedi gadael y ddinas. Mae'n dweud hyn;

These people could be doing something useful, like curing cancer or stopping global warming.

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.