Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bys ar fotwm...

Vaughan Roderick | 15:03, Dydd Mawrth, 17 Mehefin 2008

O diar. Mae Rhodri Morgan newydd esbonio ei fod wedi gwthio'r botwm pleidleisio anghywir yn ystod ddadl yr wythnos ddiwethaf. Dadl ynghylch cynnig gan Peter Black oedd honno lle'r oedd y Democrat Rhyddfrydol am gyflwyno cais am yr hawl i ddeddfu i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol Cymru. Gwrthodwyd y cais hwnnw gyda'r mwyafrif llethol o aelodau Llafur yn pleidleisio yn erbyn. Roedd Rhodri yn un o ddau aelod Llafur wnaeth bleidleisio o blaid y cynnig. Nawr mae'n ymddangos ei fod wedi gwneud hynny ar ddamwain. "Mae'n rhaid derbyn y cyfrifoldeb am gamgymeriadau ac fe wnes i gamgymeriad" meddai. "Computer malfunction" oedd esboniad y Prif Weinidog- problem debyg i "wardrobe malfunction" Janet Jackson a Justin Timberlake o bosib!

Dyw hynny ddim yn ateb y cwestiwn a godwyd gan Mike German sef "pam gwrthod y cais?" Wedi'r cyfan doedd cynnig Peter Black ddim yn golygu y byddai 'na unrhyw newid yn y gyfundrefn bleidleisio. Rhoi'r hawl i'r cynulliad newid y system oedd y bwriad. Mae pwynt Mike German yn un digon teg. Os ydy Llafur o ddifri am drosglwyddo pwerau deddfwriaethol llawn i'r cynulliad pam y mae'r blaid yn gwrthwynebu cais am drosglwyddo rhan fechan o'r pwerau hynny?

Ond nid aelodau Llafur yw'r unig rhai a allai fod a safonau dwbl yn y maes yma. Rydym yn clywed byth a hefyd am yr angen am bwerau deddfu llawn. Mae 'na drafod di-ben-draw am amseriad refferendwm. Ond mae'n bosib i'r cynulliad gwneud cais am yr hawl i ddeddfu ar unrhyw bwnc ar unrhyw bryd. Sawl aelod felly sydd wedi cynnig eu henwau yn balot i benderfynu pwy fydd yn cael cyflwyno cais i ddeddfu'r mis hwn? Dim un. Edrychwch ar hwn;

Mesurau Balot: 11 Mehefin 2008
Ni chyflwynwyd unrhyw gynigion

Dyna ni felly. Does dim un aelod o'r cynulliad yn gallu meddwl am unrhyw bwnc lle byddai'n ddefnyddiol i gael pwerau deddfu. Cofiwch hynny y tro nesaf i un ohonyn nhw frefu am ba mor rhwystredig yw'r pwerau presennol.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:18 ar 17 Mehefin 2008, Idris ysgrifennodd:

    Diffyg cynigion am Fesurau oedd yna, nid diffyg cynigion am LCOs fel rydach chi i weld yn awgrymu. Roedd rhestr hir o gynigion ar gyfer ymestyn pwerau'r Cynulliad.

    Mae'r ffaith nad oedd cynigion am Fesurau yn awgrymu nad oes digon o bwerau i allu pasio Mesurau gwerth-chweil onid ddim?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 17:34 ar 17 Mehefin 2008, Vaughan ysgrifennodd:

    Wps! Mae Idris yn gwbwl gywir! Mea Cwlpa.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 17:53 ar 17 Mehefin 2008, Daran ysgrifennodd:

    Mae Idris yn iawn yn dechnegol ar y gwhaniaeth rhwng LCOs a Mesurau, ond ar y pwynt gwleidyddol ynglyn a dim "digon o bwerau i allu pasio Mesurau gwerth-chweil" mae'n bell mas yn fy nhyb i.

    Mae'r Cynulliad yn barod wedi ennill llwyth o Faterion yn Atodiad 5. Edrychwch ar y tudalen we priodol (http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-legislation-guidance/bus-legislation-guidance-documents/legislation_fields/schedule-5.htm) a gwelwch llu ohonynt yn enwedig ym maes addysg a llywodraeth leol.

    Ac fel lobiydd dwi'n derbyn rhan o'r bai am beidio gweithio gydag aelodau ar gyfer defnyddio'r pwerau sylweddol yma.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 4. Am 10:44 ar 18 Mehefin 2008, Peter Black ysgrifennodd:

    Roedd ein grwp wedi penderfynu ein bod wedi disbyddu y posibiliadau o bwerau presennol y Cynulliad a roeddym am gadw ein Mesurau ar gyfer GCDau yn y dyfodol.

    Rhaid i chi gofio fod tri A.C. Dem Rhydd wedi ennill y balot Mesurau yn barod a does dim ond tri A.C. Dem Rhydd ar ôl gyda thair mlynedd a llawer o falotiau i fynd.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.