Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ar brawf

Vaughan Roderick | 18:01, Dydd Mawrth, 17 Mehefin 2008

Mae Alun Cairns yn ôl wrth ei waith heddiw gyda'r rhan fwyaf o'r aelodau cynulliad yr ydw i wedi siarad â nhw yn mynegi cryn gydymdeimlad â fe. Mae 'na rywbeth eithaf arswydus am ba mor ofalus y mae gwleidyddion yn gorfod bod. Gall deg eiliad o ffolineb ddryllio blynyddoedd o waith a phan mae hynny'n digwydd i un aelod mae'n naturiol efallai bod aelodau eraill yn ochri a'u cyd-wleidydd.

Beth sy'n debyg o ddigwydd nesaf felly? Wel, mae ffawd Alun i raddau helaeth yn dibynnu ar y blaid ganolog yn Llundain. A fydd 'na faddeuant iddo fel ymgeisydd seneddol ym Mro Morgannwg? Cawn weld ond mae 'na ambell i beth o'i blaid.

Yn gyntaf mae'r ffaith na fu gwleidyddion o bleidiau eraill yn unfryd wrth ei gondemio o gymorth iddo. Mae'n anodd credu efallai ond gallai'r ffaith bod gwleidyddion fel Paul Flynn a Russell Goodway wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o or-ymateb gyfri. Yn sicr, os oeddwn i yn rhoi cyngor i Alun fe fyddwn yn awgrymu ei fod yn ceisio sicrhâi bod rhai o'r disgrifiadau hael ohono gan ei wrthwynebwyr yn cael eu gweld gan gadeirydd y blaid Caroline Spelman.

Mae sefyllfa'r Cadeirydd ei hun hefyd yn berthnasol. Mae'r comisiynydd safonau newydd gyhoeddi ymchwiliad llawn i'r cyhuddiadau yn eu herbyn. Ydy Mrs Spellman mewn sefyllfa i gynnal gwrandawiad buan neu i fod yn llawdrwm wrth ystyried yr achos pan mae'n bosib y bydd hi ei hun yn gorfod pledio am faddeuant cyn bo hir?

Mae helyntion Alun wedi hawlio'r sylw dros y dyddiau diwethaf gan olygu ein bod ni newyddiadurwyr wedi treulio llai o'n hamser yn croniclo'r trafferthion sy'n wynebu'r Llywydd yn sgil ei alwad am foicot o ymweliad llysgennad Israel.

Fe fu'r grŵp Llafur yn trafod y sefyllfa heddiw ac mae'n ymddangos bod yr anniddigrwydd ynglŷn ag ymddygiad Dafydd El yn parhau i ffrwtian. Yn ôl un aelod Llafur does 'na ddim mwyafrif eto o blaid ceisio diorseddu'r Llywydd ond mae'r mater yn sicr o gael ei drafod eto cyn bo hir. Yr hyn sydd angen meddai'r aelod yw i Dafydd sylweddoli nad yw bod yn Llywydd y cynulliad yn gyfystyr a bod yn Arlywydd Cymru

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.