Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Marcio'r Gwaith Cartref

Vaughan Roderick | 13:42, Dydd Sul, 4 Mai 2008

Pedair awr ar hugain o ddadansoddi a malu awyr ar y radio a'r teledu. Yna pedair awr ar hugain o gwsg. Nawr mae'n bryd i fi weld pa mor gywir oedd fy mhroffwydoliaethau ar drothwy'r bleidlais.

Bant a ni.

O safbwynt nifer y seddi dw i'n rhagweld mai'r Ceidwadwyr fydd y buddugwyr mawr yfory. Mae hynny'n weddol sicr oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer ymgeiswyr y blaid yn arbennig mewn ardaloedd fel Sir Benfro a Phowys. Does dim amheuaeth yn fy meddwl i chwaeth y bydd y Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif ym Mro Morgannwg. Yn 2004 enillodd y Torïaid lai o seddi (107) na Llafur (478), Plaid Cymru (174) a'r Democratiaid Rhyddfrydol (146), heb son am aelodau annibynnol (322). Dwi'n disgwyl i'r Ceidwadwyr guro'r Democratiaid Rhyddfrydol y tro hwn a bod yn agos at gyfanswm Plaid Cymru.

Doedd dim angen bod yn athrylith i fentro ceiniog ar y Ceidwadwyr. Gyda ambell i sedd o hyd yn wag fe enillodd y blaid 173 o seddi, 66 yn fwy na'r tro diwethaf. Mae hynny'n gynydd o bron i hanner ond oedd hynny'n ddigon i guro'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru? Yn achos y Democratiaid Rhyddfrydol, oedd. Enillodd y blaid honno 162 o seddi. Mae hynny'n 16 yn fwy na'r tro diwethaf ond go brin bod hynny'n "ganlyniad rhagorol" beth bynnag oedd barn mawrion y blaid ac ambell i newyddiadurwr ar noson y cyfri.

Efallai oherwydd y sylw a roddwyd i Wynedd (mwy am hynny yn y man) doedd neb wedi rhagweld y byddai'n noson dda i Blaid Cymru ond roedd hwn, mewn gwirionedd yn ganlyniad rhagorol i'r cenedlaetholwyr. Enillodd y Blaid 207 o seddi, cynydd o 33. I roi hynny mewn cyd-destun roedd cynnydd Plaid Cymru yng Nghymru gymaint a chyfanswm cynnydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a Lloegr.

Mae 'na wobr, sy'n fwy na wobr gysur, i'r Democratiaid Rhyddfrydol sef cyngor mwyaf Cymru, Caerdydd. Yn fy marn i, fe fydd y blaid o fewn llond dwrn o seddi i sicrhâi mwyafrif dros bawb yn y brifddinas gyda Llafur, o bosib, yn drydydd i'r Ceidwadwyr. Gallai pethau bod yn anoddach i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe, Pen-y-bont a Wrecsam.

Oes 'na dywediad sy'n cyfateb i "back of the net" yn Gymraeg?

Ar hyn o bryd mae gan Lafur dros hanner y seddi mewn saith ardal. Dw i'n disgwyl i'r blaid gadw ei mwyafrifoedd yn Rhondda Cynon Taf, Castell Nedd-Port Talbot a Thorfaen a'u colli yn Sir Fflint, Caerffili a Blaenau Gwent. Gallai'r sefyllfa yng Nghasnewydd fod yn aneglur oherwydd gohirio'r etholiad mewn dwy ward lle mae ymgeiswyr wedi marw. Yn y Gorllewin dw i'n amau y gallai Plaid Cymru ddod yn agos at gipio mwyafrif yng Ngheredigion ac ennill tir yng Nghaerfyrddin.

Agos. Agos iawn. Mae'n gas gen i Dorfaen!

Yr unig gwestiwn yng Ngwynedd yw a fydd gan Blaid Cymru fwyafrif dros bawb? Does dim amheuaeth mai hi fydd y blaid fwyaf a gan fod y cyngor yn cael ei rhedeg gan fwrdd amlbleidiol mae'n annhebyg y bydd y canlyniad yn gwneud fawr o wahaniaeth i reolaeth neu bolisïau'r cyngor yn y tymor hir. Nid wfftio pwysigrwydd posib Llais Gwynedd yw dweud hynny. Fe fyddai llwyddiant i'r grŵp hwnnw (ac mae hynny'n golygu ennill o leiaf deg i ddwsin o seddi) yn sicr o effeithio ar y cynllun i adrefnu'r ysgolion yn y sir ac yn arwydd o anniddigrwydd arwyddocaol yn rhengoedd cefnogwyr traddodiadol Plaid Cymru.

Cafodd Llais Gwynedd noson arbennig o dda gan brofi pwynt yn lleol ond pwynt lleol yw hwnnw. Gobeithio y bydd canlyniadau 2008 yn profi unwaith ac am byth i rannau o'r cyfryngau Cymraeg a rhai cendlaetholwyr bod y byd yn fwy na'r Bontnewydd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:04 ar 4 Mai 2008, Negrin ysgrifennodd:

    Beth am Wrecsam Vaughan? Llafur yn colli 9 o'i 20 sedd, 4 o'r seddi i Blaid Cymru ac un i'r Toriad...yn Brymbo o bob man. Mi roedd hi'n amlwg i bawb oedd yn ymwneud a gwleidyddiaeth leol yn Wrecsam fod Llafur yn mynd i gael chwip din, ond ddaru chi yn BBC ddim pigo fyny ar hyny naddo! Mae angen i'r BBC dalu mwy o sylw i'r Gogledd Ddwyrain...mi ryda ni yn dal yn ddarn o Gymru!!

    Mae hi hefyd yn dal yn boenus i geisio defnyddio y blog yma, ddim rhyfedd fod yna cyn lleiad yn cyfrannu.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 16:52 ar 4 Mai 2008, Dewi ysgrifennodd:

    Y peth synhwyrol cyntaf wedi clywed o'r BBC - etholiad rhagorol i'r Blaid.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.