Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dysgu Gwers

Vaughan Roderick | 13:08, Dydd Iau, 15 Mai 2008

Gan fy mod wedi beirniadu ambell un yn y cyfryngau Cymraeg o fod ac obsesiwn am yr etholiadau lleol yng Ngwynedd am ei bod yn byw yno dw i'n gobeithio nad wyf yn syrthio i'r un trap wrth sgwennu ychydig o eiriau am y datblygiadau diweddaraf yng Nghaerdydd lle mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru newydd ffurfio clymblaid.

Mae'n debyg bod y trafodaethau ynghylch y glymblaid honno wedi bod yn eithaf didrafferth. Un pwnc ac un pwnc yn unig oedd yn achosi problemau ac nid oherwydd unrhyw anghytundeb rhwng y ddwy blaid ond oherwydd bod Plaid Cymru wedi claddu ei hun mewn twll ac yn methu'n lan a chanfod ffordd allan.

Cynlluniau'r cyngor i adrefnu ysgolion y sir sydd wrth wraidd y broblem. Mae'r cynlluniau hynny yn cynnwys cynnydd sylweddol iawn yn y ddarpariaeth ar gyfer addysg Gymraeg- cynlluniau fyddai yn y pendraw yn arwain at ugain ysgol gynradd a phedair ysgol uwchradd Gymraeg yn y Brifddinas. Fel y byddai dyn yn disgwyl mae Plaid Cymru'n cefnogi'r cynlluniau ond mewn un ardal, sef Treganna, mae'r cenedlaetholwyr wedi creu trafferthion dybryd iddyn nhw eu hun.

Mae twf Plaid Cymru yng Nghaerdydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn seiliedig ar sicrhâi cefnogaeth rhai o bleidleiswyr dosbarth gwaith traddodiadol y ddinas (yn arbennig y rhai sy'n perthyn i leiafrifoedd ethnig) a'i ychwanegu at gefnogaeth y nifer cynyddol o Gymry Gymraeg.

Un o'r wardiau oedd wedi ei thargedi gan Blaid Cymru oedd Treganna. Ofer fu'r ymdrech honno ond mewn ymgais i blesio pawb fe wrthwynebodd y Blaid gynllun y cyngor i gau un o'r ysgolion Saesneg lleol er mwyn ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg.

Mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi ei chael hi'n amhosib cefnu ar yr addewid hwnnw yn ystod eu trafodaethau a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae'r Ysgol Saesneg wedi ei hachub felly a rhieni'r Ysgol Gymraeg yn gorfod bodloni ar addewid y bydd ysgol newydd sbon yn cael ei chodi ar eu cyfer erbyn 2011.

Mae'r cyngor yn hyderus y bydd yr addewid yn cael ei wireddu. Mae'r rhieni, ar y llaw arall, yn amheus. Beth bynnag yw'r gwir dyw'r addewid o ysgol newydd yn gwneud dim i'r plant sy'n goddef cyfleusterau cyfyngedig ac eilradd ar hyn o bryd.

Mae'r cyngor yn addo mesurau dros dro i leddfu ar y sefyllfa ond, fel yng Ngwynedd, mae Plaid Cymru yn dysgu bod llid rhieni, boed yn rhesymol neu'n afresymol, yn un o'r problemau anoddaf wrth reoli.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:45 ar 15 Mai 2008, ysgrifennodd Owen Llywelyn:

    Rhag ofn eich bod yn anghofio ein bod yn bodoli dyma flog newydd am y sefyllfa yng Ngheredigion gan Gynghorydd Sir Llanfihangel Ystrad (Dyffryn Aeron)

  • 2. Am 20:21 ar 16 Mai 2008, ysgrifennodd Morgan Brychan:

    Vaughan, chi'n cymryd lein anffodus fan hyn.

    Mae Plaid Cymru wedi gwneud penderfyniad da ynglyn a'r sefyllfa hon. Yn hytrach na gwahaniaethu'r gymuned ar linellau ieithyddol, mae'r blaid wedi achub un ysgol ac yn delio gyda phroblemau yn yr Ysgol Gymraeg trwy adeiladu ysgol newydd.

    Beth sy'n well, ysgol Gymraeg newydd sbon, heb cau ysgol Saesneg, gyda 1 blwyddyn arall o oedi? Neu cau ysgol Saesneg?

    Fel dywedodd rhywun ar blog arall:

    "Perffaith! Agor ysgol gynradd Gymraeg newydd, heb greu drwgdeimlad di-angen."

    Mae'n anffodus nad ydy pawb yn gweld y sefyllfa fel 'ny.

  • 3. Am 20:47 ar 18 Mai 2008, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Mae gen i blentyn ar fin mynd i Ysgol Treganna am i mi symud i Gaerdydd ar ol derbyn swydd ddarlithio yn y Brifysgol. Mae'n bur amlwg y bydd y penderfyniad yma yn peri trafferth i'r Blaid yn lleol, ac rwy'n credu hefyd y bu'n ffactor pam na fedrodd y Blaid fanteisio ar eu hail safle gref i ddisodli Llafur yn Nhreganna (er gwaetha' amhoblogrwydd y Llywodraeth) yn yr etholiadau lleol. Pleidleisiodd llawer o rieni Cymraeg Treganna dros y Gwyrddion, Democratiaid Rhyddfrydol ac yn y blaen.

    O'm rhan fy hun, rwy'n gwrthwynebu polisi'r Blaid am un rheswm syml. Ni fydd yr Ysgol newydd arfaethedig yn Nhreganna o gwbl, ond yn hytrach rhyw filltir a hanner i lawr y lon yn ymyl Pont Trelai. Yn wahanol i blant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, ni fydd plant Cymraeg Treganna yn derbyn addysg yn eu cymuned eu hunain. O ystyried bod pedair ysgol Saesneg hanner gwag yn Nhreganna yn barod, mae hynny'n annerbyniol, ac rwy'n siwr y bydd yn annerbyniol gan lawer o rieni Cymraeg eraill hefyd.

  • 4. Am 13:50 ar 20 Mai 2008, ysgrifennodd Daniel Jackson:

    Mae Plaid Cymru wedi gwneud y penderfyniad iawn fan hyn - adeiladu ysgol Gymraeg newydd. Fel dywedodd rhywun arall:

    "Perffaith! Agor ysgol gynradd Gymraeg newydd, heb greu drwgdeimlad di-angen."

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.