Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwmwl dros y gadair?

Vaughan Roderick | 15:47, Dydd Mawrth, 20 Mai 2008


Weithiau mae'n ymddangos bod gafael Dafydd Elis Thomas ar gadair y Llywydd bron mor gadarn a digyfnewid a lle Cadair Idris yng nghalon ei etholaeth. Yn y naw mlynedd ers sefydlu'r cynulliad mae'r Llywydd wedi gwylltio ambell i aelod ar sawl achlysur. Serch hynny ar y cyfan mae'r parch at ei brofiad a'i waith wrth adeiladu'r cynulliad fel corff seneddol annibynnol o'r llywodraeth wedi sicrhâi nad oedd 'na unrhyw wir fygythiad i'w afael ar y swydd.

Nawr, mae 'na ambell i arwydd bod pethau'n newid. Gyda'r newidiadau a ddaeth yn sgil ail fesur llywodraeth Cymru bellach wedi cyrraedd rhyw fath o sefydlogrwydd mae ambell aelod yn dechrau amau bod hi'n bryd i'r Arglwydd gamu i'r naill ochr.

Mae cyfres o benderfyniadau a sylwadau gan y Llywydd a chomisiwn y cynulliad (y pwyllgor o aelodau sy'n goruchwylio'r lle) wedi corddi'r dyfroedd.

Ers tro byd mae rhai o aelodau'r cynulliad wedi bod yn cwyno bod y broses o wneud ceisiadau am yr hawl i ddeddfu yn drwsgl ac yn boenus o araf. Tan yn ddiweddar roedd y Llywydd yn mynnu mai nonsens oedd hynny. Roedd unrhyw feirniadaeth o'r gyfundrefn yn ffrwyth dychymyg newyddiadurwyr anwybodus a maleisus yn ei farn ef. Yna wrth gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol a'r Gyfiawnder rhai wythnosau yn ôl fe gyfaddefodd y Llywydd bod 'na sail i'r cwynion. Nid y drefn oedd ar fai, wrth gwrs, ond am unwaith roedd twpsod y wasg a'r teledu hefyd yn ddieuog. Y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig oedd y broblem y tro hwn. Nid Aelodau San Steffan sy'n ethol y Llywydd, wrth reswm, ond fe fyddai'n ddifyr fod yn bry ar wal wrth i aelodau'r pwyllgor drafod y sylwadau hynny a'u cyd-aelodau Llafur yn y Bae!

Mae penderfyniadau diweddar ynghylch cyhoeddi manylion treuliau'r aelodau a rheolau drafft i reoli blogs hefyd wedi tynnu blew o drwyn rhai o'n gwleidyddion. Yn eu plith mae'n ymddangos mae'r aelod Llafur, Alun Davies. Yn ystod cwestiynau i Arweinydd y Tŷ, Carwyn Jones, fe ofynnodd Alun gwestiwn digon cwrtais- a fyddai'n bosib cael dadl yn amser y Llywodraeth ynghylch atebolrwydd y comisiwn i'r cynulliad?

Fel mae'n digwydd y Diprwy Lywdd, Rosemary Butler oedd yn y gadair ar y pryd ond does dim dwywaith mai rhybudd i'r Llywydd oedd y cwestiwn hwnnw. Ydy David Melding wedi dechrau canfasio eto?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:52 ar 21 Mai 2008, Helen ysgrifennodd:

    Dyna sy'n dod o gyfaddawdu ar gasgliadau Comisiwn Richard yn y lle cyntaf - dryswch a thâp coch, a'r Arglwydd yn ceisio honni bod popeth yn iawn, ac yn canu clod hawliau deddfwriaethol newydd y Cynulliad. Roedd yn amlwg y byddai pobl yn gweld trwy'r twyll yn hwyr neu'n hwyrach, ond twyll pwy, yn y bôn? Chwarae rôl y mae Llywydd y Cynulliad - pwy ŵyr a oedd yn wir yn credu'r hyn yr oedd yn ei ddweud ar y pryd ynglŷn â hwylustod honedig y drefn newydd! Amau dw i ei fod yn ceisio cadw'r ddysgl yn wastad. Felly mae'r Pwyllgor Dethol wedi troi'n fwch dihangol y tro hwn! Be nesa? Pryd y mae'r pwysigion yn mynd i gyfaddef mai Comisiwn Richard oedd yn iawn yn y lle cyntaf? Bydd yn rhaid inni gael refferendwm i unioni'r mater hwn - gan obeithio y bydd effaith y broses araf bresennol yn ddigon amlwg erbyn hynny!

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.