Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O'r diwedd!

Vaughan Roderick | 14:09, Dydd Iau, 24 Ebrill 2008

Reit, gydag unrhyw lwc mae popeth yn gweithio erbyn hyn.

Mae'n bryd i ni ddal lan ar bethau.

Braf yw nodi enw un ymgeisydd Ceidwadol yng Ngheredigion. Mr. Neville Chamberlain. Neb llai. Oes 'na Churchill neu Lloyd George yn rhywle dywedwch?

Pam y mae cymaint o'n gwleidyddion cenedlaethol yn treulio'i hamser yn ward Glanrafon yng Nghaerdydd y dyddiau hyn? Mae Carwyn Jones a Dafydd Wigley ymhlith eraill wedi eu gweld yn troedio'r strydoedd yno. Ydy Dafydd yn poeni y gallai prif weithredwraig y blaid golli ei sedd ar y cyngor neu ydy'r ffaith ei bod wedi colli ward oedd arfer cael ei chynrychioli gan ddau aelod o'r cabinet yn dal i boeni Llafur?

Oes unrhyw un yn deall beth ar y ddaear yr oedd Eleanor yn son amdani yn fan hyn?

Eleanor Burnham: "I ddilyn y mater hwnnw ychydig ymhellach, Brif Weinidog, yn sicr mae llawer y gall Cymru ei wneud. Mae'n siŵr y gallwn edrych dros y ffin a theimlo efallai bod ein hanes ni wedi bod yn debyg i hanes Tibet mewn rhai ffyrdd, er nad mor ddiweddar efallai. Mae llawer o bobl Cymru yn teimlo eu bod wedi'u gormesu am genedlaethau lawer er nad yw hynny'n digwydd yn awr, yn amlwg. Beth yn union y gallwch ei wneud i gyfleu'r ddealltwriaeth sydd gennym yng Nghymru o sut y mae'n teimlo i fod dan ormes grym mwy, megis Beijing ar Tibet? Sut y gallwch godi digon o ymwybyddiaeth yn Tsieina, oherwydd yn amlwg mae gennych gryn ddylanwad, a'u galluogi i symud ymlaen mewn modd llawer mwy democrataidd nag a welwn o'r hyn yr ydym yn ei wybod sy'n digwydd yn Tibet?"

Fe wnaeth y Prif Weinidog ei orau.

Y Prif Weinidog:"Yng nghanol y dryswch geiriol eithaf gwyrdroëdig hwnnw, credaf fod pwynt dilys i'w gael. Y pwynt am ddatganoli, ac mae gennym naw mlynedd o brofiad ohono, ac ymreolaeth, a hawliadau Tibet am ryw fath o gydnabyddiaeth, boed hynny o ran diwylliant, crefydd, gwleidyddiaeth neu hawliau dynol, yw'r mater dan sylw. I ryw raddau, gallai profiad y DU dros y naw mlynedd diwethaf fod o werth i awdurdodau Tsieina os gallant gyrraedd y meddylfryd, lle nad ydynt ar hyn o bryd, i ofyn, 'A oes gennym wersi i'w dysgu gan y byd y tu allan?'. Ar hyn o bryd, maent yn dweud, 'Fyd y tu allan, cadwch allan; nid oes gennym ddim gwersi i'w dysgu gan neb.'

Y cyfan sy gen i ddweud yw bod "Om Mani Padme Hum" bron mor ddealladwy â'r sesiwn fach yna yn y siambr!

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.