Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

I mewn i'r gôl

Vaughan Roderick | 15:09, Dydd Mawrth, 8 Ebrill 2008

Doedd hi ddim yn syndod bod Rhodri Morgan ac Ieuan Wyn Jones wedi cychwyn cynhadledd newyddion heddiw trwy longyfarch Dinas Caerdydd ar gyrraedd rownd derfynol cwpan yr FA. Dw i'n sicr bod y llongyfarchiadau hynny'n ddiffuant, ar y llaw arall mae pob gwleidydd yn hoffi cysylltu ei hun â llwyddiant. Ond beth am gysylltu'ch hun â methiant?
"A fyddai'r llywodraeth yn ymyrryd i ddiogelu dyfodol y Cae Ras pe bai Wrecsam yn colli ei lle yn y Cynghrair Pêl Droed?" Cwestiwn digon teg, dybiwn i. Dyna'r rheswm i mi ei ofyn. Dim ymateb gan y Prif Weinidog. Rydw i'n besimist yn ôl Rhodri. Does ond angen cyfres o gemau ac fe fydd Wrecsam yn ddiogel meddai. Iawn, ond os oedd y gwaethaf yn digwydd? Os ydy llwyddiant tîm Caerdydd yn hwb enfawr i'r Brifddinas a Chymru oni fyddai colli'r Dreigiau yn gythraul o ergyd...yn enwedig o gofio mai'r Cae Ras yw'r unig stadiwm chwaraeon proffesiynol yn y Gogledd?
Dipyn o synnwyr gan y dirprwy brif weinidog yn y diwedd. "Mae'r Cae Ras yn adnodd allweddol i'r Gogledd ac mae'n bwysig gwneud popeth posib i'w ddiogelu."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:15 ar 9 Ebrill 2008, Penyberth ysgrifennodd:

    Ddim pesimistiaeth ydy gofidio am ddyfodol Clwb Peldroed Wrecsam ond bod yn pragmatig. Dyma'r ail dymor iddynt fod yn y gwaelodion a rhaid bod yn deg a deud eu bod yn haeddu mynd i lawr.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.