Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwaed newydd

Vaughan Roderick | 14:17, Dydd Iau, 10 Ebrill 2008

Roedd 'na dipyn o ffwdan yr wythnos 'ma pan awgrymodd arolwg gan BBC Cymru bod yr ymdrechion i ddenu rhagor o bobol ifanc i eistedd ar gynghorau wedi methu.

Does dim angen poeni. Yn ôl y South Wales Argus ymhlith ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghasnewydd mae Winifred Lee (89) a Megan Rees (83). Mae'r Blaid yn cyfaddef mai chwifio'r faner mae'r ddwy mewn wardiau nad oes gobaith eu hennill. Does dim gwirionedd yn y si eu bod wedi gwahodd y glaslanc Menzies Campbell i ymgyrchu ar eu rhan!

Mae gwrthwynebydd Ceidwadol Mrs. Lee Peter Davies wedi ymateb mew modd digon bonheddig. "I consider she will be a most charming opponent." meddai. Hefyd yn sefyll i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghasnewydd mae mab a merch yng nghyfraith arweinydd grŵp y blaid ar y cyngor. Go brin y bydd Peter Davies yn gweld hynny fel nepotistiaeth. Wedi'r cyfan mae'n dad i David Davies, aelod seneddol Trefynwy.


Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.