Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Colli Crick

Vaughan Roderick | 14:15, Dydd Mercher, 16 Ebrill 2008

Yfory fe fydd y cynulliad yn agor ei ail siambr. Na, nid cartref i gyn-wleidyddion a'r bobol fawr yw hon ond siambr i bobol ifanc ddadlau a dysgu am ein cyfundrefn lywodraethol. Dyw' siambr ei hun ddim yn gyfan gwbwl newydd chwaeth. Yr ystafell hon yn Nhŷ Crughywel oedd cartref y cynulliad am ei chwe blynedd gyntaf cyn agor adeilad y Senedd. Twll o le oedd hi mewn gwirionedd gyda newyddiadurwyr o Lundain yn hallt eu beirniadaeth yn ôl yn 1999 pan agorwyd y cynulliad. "All the amibience of a multi-storey car park" oedd un disgrifiad ohoni "not unlike the canteen on a cross-channel ferry" oedd un arall.

Ta beth mae pwy bynnag wnaeth ail-gynllunio'r lle ar gyfer disgyblion a myfyrwyr wedi gwneud gwell job ohoni na'r cynllunydd gwreiddiol a heb os fe fydd yn ychwanegiad at fywyd y cynulliad ac addysg y rhai sy'n mynychu'r cyrsiau a gynhelir yno.

"Siambr Hywel" yw enw newydd y lle. Hywel Dda oedd yr ysbrydoliaeth mae'n debyg. Efallai nad yw'n gyd-ddigwyddiad mai cyfreithiau Hywel oedd testun ymchwil Llywydd y Cynulliad yn ei ddyddiau prifysgol. Mae enw'r adeilad lle mae'r siambr hefyd yn newid o "Tŷ Crughywel/Crickhowell House" i "Tŷ Hywel".

Roedd hi braidd yn eironig bod cartref cyntaf y cynulliad mewn adeilad wedi ei enwi ar ôl Nicholas Edwards ac mae'n hawdd deal y cymhellion dros ei newid. Ar y llaw arall mae 'n un o'r adeiladau mwyaf hyll a greoedd dyn erioed. Mantais fawr gweithio y tu fewn i'r "palas" yma yw eich bod chi'n un o'r ychydig bobol yn yr ardal sy ddim yn gallu gweld y ploryn brics trwy'ch ffenest. Ai'r adeilad yma yw'r gofeb orau i Hywel Dda...neu ydy hi mewn gwirionedd yn gofeb berffaith i'r hen Swyddfa Gymreig a gwasanaethau cyhoeddus siabi'r wythdegau?

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.