Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Anoracia

Vaughan Roderick | 20:28, Dydd Mercher, 9 Ebrill 2008

Rhag ofn eich bod eisiau gwybod... os ydy mathemateg Guto Thomas yn gywir mae 'na 3266 o ymgeiswyr yn sefyll etholiad ym Mis Mai ar gyfer y cynghorau sir. Yn eu plith mae 877 o ymgeiswyr Llafur, 519 o ymgeiswyr Plaid Cymru, 516 Ceidwadwr a 439 Democrat Rhyddfrydol. Mae 'na 718 o ymgeiswyr annibynnol. Ymhlith y grwpiau a phleidiau llai mae 28 ymgeisydd gan y BNP (gyda'r nifer fwyaf yng Nghonwy) 29 gan Lais y Bobol (20 ym Mlaenau Gwent a 9 yn Nhorfaen) a 28 gan Lais Gwynedd.

Mae gan Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol o leiaf un ymgeisydd ym mhob ardal cyngor. Mae'r Toriad wedi llwyddo ym mhob man ac eithrio Merthyr. Llafur sydd a'r nifer fwyaf o ymgeiswyr ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Sir Fflint, Merthyr, Castell Nedd Port Talbot Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam. Mae'r ymgeiswyr annibynnol ar y blaen yng Nghaerfyrddin, Powys, Sir Ddinbych, Sir Benfro ac Ynys Môn. Plaid Cymru sydd a'r nifer fwyaf o ymgeiswyr yng Ngwynedd a Cheredigion ac Mae'r Torïaid ar y blaen yn Abertawe, Bro Morgannwg, Sir Fynwy a Chonwy. Yng Nghaerdydd mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymladd pob sedd. Mae Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gydradd yng Nghasnewydd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:34 ar 9 Ebrill 2008, Dewi ysgrifennodd:

    O le mai cael gwybod pwy sy'n sefyll ble ? Oes rhaid mynd trwy wefannau pob cyngor?

    Cwyno am y sylw hwn

  • 2. Am 22:51 ar 9 Ebrill 2008, Hedd Gwynfor ysgrifennodd:

    Er Gwybodaeth, mae Ymgeiswyr a Chynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin wedi lansio gwefan - http://www.plaidsirgar.org/ .

    Mae gan Blaid Cymru 60 ymgeisydd yn Sir Gâr eleni, y mwyaf erioed o'r hyn ddeallaf.

    Cwyno am y sylw hwn

  • 3. Am 09:14 ar 10 Ebrill 2008, Dewi ysgrifennodd:

    Diolch Vaughan - Anoracia yn wir - wrth fy modd!!!

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.