Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Troi'n bersonol?

Vaughan Roderick | 17:09, Dydd Mercher, 5 Mawrth 2008

Mae llawer o son wedi bod yr wythnos hon am y tensiynau rhwng Llafur yn y cynulliad a'r Aelodau Seneddol. Erbyn hyn dyw pobol ddim hyd yn oed yn ceisio celu'r ffaith. Mae'r llawer o'r tensiynau hynny i'w gweld pan geir trafodaethau ar wasanaethau traws-ffiniol, pwnc sy'n destun ymchwiliad gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Lansiwyd yr ymchwiliad hwnnw ar gais Aelod Seneddol Wrecsam Ian Lucas.

Y prynhawn yma roedd y cynulliad yn trafod yr un pwnc ac mewn araith ryfeddol dywedodd cynrychiolydd Wrecsam ym Mae Caerdydd Leslie Griffiths hyn "Sadly in recent times the very term cross-border been somewhat hijacked by people who see themselves as self-styled sceptics on devolution and the phrase cropss-border is now almost a metaphor for a lack of aspiration and ambition that is now infecting the body-politic in certain parts of Wales."

Os nad oedd ffiniau yn bwysig wrth gyflenwi gwasanaethau meddai doedd dim pwrpas ceisio sicrhâi Prifysgol yn Wrecsam. Wedi'r cyfan mae 'na hen ddigon o brifysgolion y tu hwnt i Glawdd Offa. Pam brwydro dros gael carchardy yng Ngogledd Cymru pan mae 'na garchardai yng Ngogledd Orllewin Lloegr? Pam ceisio denu gwaith i Wrecsam gyda hen ddigon o swyddi ar gael ym Manceinion?

Am bwy oedd Leslie Griffith yn meddwl wrth iddi draddodi ei geiriau, tybed? Nid Ian Lucas siawns?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:19 ar 6 Mawrth 2008, Penyberth ysgrifennodd:

    Mi fydda i'n edrych yn ofalus o hyn ymlaen, os ydy enw Lesley yn dal i fyny yn y swyddfa mae hi'n ei rannu hefo Ian (Luddite)Lucas (mae o'n mynd fwy fel Luddite bob dydd)

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.