Advertisement
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Maddeuwch i mi...

Vaughan Roderick | 18:55, Dydd Sadwrn, 29 Mawrth 2008

Draw i Gasnewydd heddiw ar gyfer cynhadledd Plaid Cymru a sawl (wel, ambell) un yn gofyn pam nad ydwyf wedi blogio am ychydig. Y rheswm syml yw bod gen i dair wythnos o wyliau. Maddeuwch i mi, fe fydd yn rhaid i mi gofio gadael nodyn y tro nesaf!

Ta beth roeddwn i yn ôl yn gweithio am y dydd heddiw ac yn cael cyfle i weld y ffordd y mae grym yn newid Plaid. Cymerwch un enghraifft, tan yn ddiweddar fe fyddai adloniant yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn golygu dal bws i rhyw sgubor yn rhywle ar gyfer Twmpath. Nid felly yng Nghasnewydd. Mae Plaid Cymru yn cynnal cinio mawreddog hen yng ngwesty y “Celtic Manor”. Y pris? £75 (heb gynnwys gwin). Credwch neu beidio mae cant chwedeg o bobol yn mynd.

A phwy yw hwnna yn nghyntedd y gynhadledd? Wel pwy fyddai'n meddwl? Steve Morgan, neb llai. Y lobïwr a fu'n rhedeg ymgyrch Peter Hain am y dirprwy arweinyddiaeth Llafur. Cofiwch, efallai bod na fwy o groeso iddo fe fan hyn na fyddai 'na yng Nghastell Nedd y dyddiau yma.

Yr hyn sy'n rhyfeddol yma yw bod pawb yma mewn hwyliau rhyfeddol o dda. Anghofiwch am yr helyntion ynghylch “Y Byd” ac ysgolion Gwynedd mae hon yn blaid sy'n rhyfeddol o hyderus. Fe ddaw diwedd ar y mis mel, heb os, ond does dim arwydd o hynny eto. Tri chant yn y gynhadledd (y nifer fwyaf erioed mewn cynhadledd wanwyn) a dim un ohonyn nhw'n grwgnach.

Llais Gwynedd? Dim problem. Fe fydd na fwy na digon o seddi annibynnol yn “dod drosodd” i'r Blaid i wneud yn iawn am unrhyw golledion. “Y Byd”? Penderfyniad call er mwyn osgoi methiant anorfod (nid bod modd dweud hynny ar goedd wrth gwrs).

Fe gawn weld ymhen y mis faint o sail sy na i'r holl optimistiaeth yma.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:59 ar 1 Ebrill 2008, Helen ysgrifennodd:

    Bûm innau yng Nghynhadledd Wanwyn y Blaid ac, yn wir, roedd y naws yn hynod o optimistaidd, yn enwedig o gofio'r helyntion presennol yng Ngwynedd. Efallai, yn wir, y bydd y Blaid yn gwneud yn dda yn y De - os yw'r awdurdodau addysg lleol yn y dinasoedd a'r cymoedd yn llusgo eu traed o ran ateb y galw lleol cynyddol am addysg Gymraeg, ac o ran ad-drefnu dalgylchoedd ysgolion cynradd er mwyn creu lle ar gyfer unrhyw ddarpariaeth newydd a fo'n angenrheidiol, efallai y gall y Blaid elwa ar hynny. Byddai'n eironig iawn pe bai hynny'n digwydd, o gofio mai addysg yw'r pwnc mwyaf cynhennus yng Ngwynedd ar y funud, a'r mater sydd fwyaf tebygol o effeithio ar fwyafrif y Blaid ar y Cyngor ar ôl 1 Mai.

    Cwyno am y sylw hwn

Anfon sylw

Mae’n rhaid i chi ddarpau enw a chyfeiriad (ni fydd y cyfeiriad yn cael ei gyhoeddi).

Bydd sylwadau ar y blog hwn yn cael eu cymedroli.

(Gofynnol)

(Ni fydd yn cael ei gyhoeddi)


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.