Works Wonders
Roedd Clwb y Double Diamond yng Nghaerffili bron mor ddiflas â'r cwrw o'r un enw. Roedd y lle'n debycach i sied neu warws na neuadd gyngerdd ond yn y dyddiau cyn agor Neuadd Dewi Sant ac Arena Rhyngwladol Caerdydd y Double Diamond oedd y lle i fynd os am weld enwau mawr y byd adloniant. Fel mae'n digwydd cyn-berchennog y clwb oedd un o'r rhai oedd yn gyfrifol am godi'r cerflun o Tommy Cooper yn ddiweddar. Y cyfan ddwedai am hwnnw yw ei fod yn drawiadol ond efallai braidd yn ddi-chwaeth- yn gwbwl addas i'w destun felly.
Pâr arall oedd yn gallu llenwi'r Double Diamond oedd Ryan a Ronnie ac ar hyn o bryd mae S4C yn paratoi drama am y berthynas stormus rhwng y ddau ddigrifwr. Mae'r ffilm gyfan yn cymryd lle yn y clwb nos ac mae hynny wedi pery problemau i'r cynhyrchwyr.
Er bod y Double Diamond wedi diflannu mae 'na hen ddigon o neuaddau a chlybiau a fyddai'n gwneud y tro ar gyfer y ffilm. Nid dyna yw'r broblem. Yr hyn sy'n anodd yw ail-greu naws ac awyrgylch yr hen glwb. Dw i fy hun ddim yn cofio rhyw lawer am y lle ond dwi'n cofio'r drewdod, y sawr sur oedd yn gymysgedd o gwrw rhad, saim sglodion a Players No.6.
Y No.6 yw'r broblem wrth gwrs. Yn ôl yn nyddiau Ryan a Ronnie roedd bron pawb, yn y cymoedd o leiaf, yn smocio ac fe fyddai portreadu'r Double Dimaond neu Ryan ei hun heb sigaréts fel dangos y Moulin Rouge heb ferched.
Yma yng Nghymru does 'na ddim eithriadau i'r gwaharddiad ar smygu yn y gweithle. Yn Lloegr ar y llaw arall mae modd gwneud cais i gyngor lleol am eithriad at ddibenion artistig. Lle felly mae’r ddrama yn cael ei ffilmio? Yn ble mae miloedd S4C yn cael eu gwario? Yn Lerpwl.
Nid trwy hap a damwain y mae hyn wedi digwydd. Yn sgil sefyllfa yn yr Alban lle cafodd Mel Smith ei wahardd rhag cynnau sigâr yn ystod ei sioe un dyn am Winstone Churchill roedd aelodau'r cynulliad yn gwybod yn iawn y gallai'r fath sefyllfa godi. Gan ddangos anwybodaeth lwyr o'r dechnoleg awgrymwyd y gellid defnyddio technoleg CGI i osod sigarennau yn nwylo actorion. Cymaint oedd pryder yr aelodau dros effaith hyd yn oed y mymryn lleiaf o fwg ar ysgyfaint actorion neu cymaint oedd eu culni Calfinaidd nes iddynt wrthod pob ymdrech i sicrhâi cyfaddawd.
Yn bersonol mae'n well gen i oglau baco i ddrewdod yr hunangyfiawn!

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru.

~RS~q~RS~~RS~z~RS~18~RS~)