Advertisement

Archifau 6 Mawrth 2008

Dal i fyny

Vaughan Roderick | 13:30, Dydd Iau, 6 Mawrth 2008

Sylwadau (0)

Roedd 'na drafodaeth fywiog ar CF99 neithiwr ynglyn a'r tenuisynau rhwng San Steffan a'r bae. Dyw rhaglenni Cymraeg y BBC ddim yn ymddangos ar yr iPlayer" hyd yma. Yn ffodus mae gen i vPlayer!
Os wnaethoch chi golli'r rhaglen cliciwch yn fan hyn.

Iaith ar waith

Vaughan Roderick | 12:47, Dydd Iau, 6 Mawrth 2008

Sylwadau (3)

Pan oeddwn i'n grwt dw i'n cofio cael fy synnu o weld y geiriau "Dinas Caerdydd" yn ymddangos ar ochrau'r bysus oren. Hwnnw oedd y tro cyntaf yn fy mywyd i mi weld y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn unrhyw fath o ffordd swyddogol.Mae'n anodd cofio nawr pa mor anweladwy oedd y Gymraeg yn nwyrain Cymru tan ddiwedd y chwedegau. Ac eithrio ambell i arwydd capel ac ambell i enw stryd, Saesneg, a Saesneg yn unig oedd yn teyrnasu.

Mae pethau wedi newid erbyn hyn wrth gwrs ac mae'r newidiadau hynny'n parhau. Un newid nodweddiadol diweddar yw'r duedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn unig wrth enwi sefydliadau newydd. Ddoe er enghraifft cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer ysbyty cyffredinol newydd yng Nglyn Ebwy. "Ysbyty Aneurin Bevan" fydd enw'r lle. "Ysbyty Aneurin Bevan" sylwer nid "Ysbyty Aneurin Bevan Hospital". Yr un yw'r patrwm gydag Ysbyty'r Tri Chwm yn yr un ardal ac Ysbyty Ystrad Fawr yng Nghwm Rhymni.

Maw hwn yn gam bychan ond yn un reit bwysig o safbwynt normaleiddio'r Gymraeg. Cymerwch f'annwyl gyflogwyr fel esiampl. Ar raglenni Saesneg y gorfforaeth cyfeirir at "Ysbyty Gwynedd" gan mai hwnnw yw'r enw swyddogol ond "Glan Clwyd Hospital" sy'n cael ei ddefnyddio gan fod enw swyddogol y sefydliad hwnnw'n ddwyieithog.

Nawr dw i ddim yn dadlau am eiliad bod hyn yn achubiaeth i'r Gymraeg ond yn enwedig mewn ardaloedd fel cymoedd Gwent mae gwneud y Gymraeg yn weladwy ac yn rhan o fywyd bob dydd yn bwysig.

Cafwyd cam bach arall ymlaen i'r iaith gyda'r cyhoeddiad bod yr Undeb Ewropeaidd yn bwriadu cydnabod y Gymraeg fel "cyd-iaith swyddogol. Nawr dyw hynny ddim cweit cystal â bod yn iaith swyddogol- ac mae rhai o rheiny a llawer llai o siaradwyr na'r Gymraeg. Serch hynny mae'n golygu y bydd gan y Gymraeg yr un statws a'r Gatalaneg a'r Fasgeg. O hyn ymlaen fe fydd hi'n bosib defnyddio'r Gymraeg i ohebu â sefydliadau’r undeb ac i siarad Cymraeg mewn rhai cyfarfodydd. Yr unig broblem yw mai'r cynulliad fydd yn gorfod darparu a thalu am y gwasanaeth. Mae cost gwasanaethau mewn ieithoedd swyddogol, y Wyddeleg er enghraifft, yn cael eu talu o goffrau'r undeb. Esgus arall dros eu wado nhw Ddydd Sadwrn.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.